Sut i ymweld yn ddiogel

Visit Safe White

Darllenwch Reoliadau Coronafeirws Llywodraeth Cymru 

Mae newidiadau i’r ardaloedd i gerddwyr yng nghanol y ddinas yn cefnogi’r angen i gadw pellter cymdeithasol ac yn gwella diogelwch ymwelwyr, gan gynnwys rhwystrau ychwanegol ar fannau allweddol i gynyddu’r ardaloedd sydd ar gael yng nghanol y ddinas i gerddwyr.

Gweler yma fap o’r newidiadau yng nghanol y ddinas. (pdf). 

I sicrhau eich diogelwch eich hun a phobl eraill, dilynwch y canllawiau isod.

Sut i ymweld yn ddiogel

Mae gorchuddion wyneb yn orfodol yn y rhan fwyaf o fannau cyhoeddus dan do ledled Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.  

  • Cadwch bellter diogel rhyngoch chi ac eraill bob amser gan gynnwys wrth giwio ac aros am gludiant
  • Dilynwch arwyddion a chyfarwyddyd ar strydoedd, mewn siopau a thai bwyta
  • Defnyddiwch daliadau digyffwrdd lle bynnag y bo modd 
  • Gwisgwch orchudd wyneb mewn sefyllfaoedd lle gallai fod yn anodd cadw pellter cymdeithasol rhwng pobl
  • Golchwch eich dwylo'n rheolaidd
  • Byddwch yn ystyriol o bobl sy’n agored i niwed a'r rhai sydd â phroblemau symudedd
  • Cerddwch neu feiciwch i ymweld os gallwch

Barod Amdani

Cadwch olwg am logo Barod Amdani yng Nghasnewydd!

Barod Amdani yw marc swyddogol y DU i ddangos bod busnes wedi gweithio'n galed i ddilyn canllawiau COVID-19 y diwydiant a’r llywodraeth, a bod proses ar waith i gynnal glanweithdra a hybu ymbellhau cymdeithasol.

Dewch o hyd i'r sefydliadau twristiaeth diweddaraf yng Nghasnewydd sydd wedi ymrwymo i'r safon "Barod Amdani" a dderbynnir yn genedlaethol