Cyngor i fusnesau

Visit Safe White

Cyngor Cyffredinol i bob busnes

Bwriedir ailagor manwerthu nad yw’n hanfodol ddydd Llun 12 Ebrill. Bwriedir ailagor lletygarwch ddydd Llun 26 Ebrill.

O dan gynlluniau adfer Covid-19 Llywodraeth Cymru, mae llawer o fusnesau bellach yn gallu, neu wrthi'n paratoi, i ailagor.

Bydd pob busnes yn penderfynu os a pha bryd y mae'n iawn i ailagor, rhaid i chi ddilyn canllawiau coronafeirws Llywodraeth Cymru ar sut i weithio'n ddiogel yn ystod y coronafeirws.

Darllenwch gyngor coronafeirws Llywodraeth Cymru i fusnesau a chyflogwyr am ragor o wybodaeth. 

Rydym yn gwerthfawrogi'r heriau enfawr y mae busnesau Casnewydd wedi'u hwynebu yn ystod y misoedd diwethaf a byddwn yn parhau i’ch cefnogi wrth i chi ailagor a helpu ein heconomi leol i wella.

Darllenwch am gymorth sydd ar gael i fusnesau lleol

Rydym yma i'ch cefnogi, croeso nôl!

Tracio, Olrhain, Diogelu – rheolau ar gyfer busnesau 

Cadw Cofnodion

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau penodol gofnodi manylion cyswllt pobl sy'n dod i mewn i'w safleoedd a sicrhau bod y manylion hynny ar gael i swyddogion iechyd y cyhoedd am hyd at 21 diwrnod.  Mae hyn dan reoliadau a ddaeth i rym ar 17 Awst 2020.

Rhaid i'r manylion cyswllt a gedwir fod yn ddigon manwl i alluogi’r gwaith o gysylltu â phobl os oes angen a rhaid iddynt gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Enw
  • Rhif ffôn
  • Dyddiad cyrraedd a gadael
  • Amser cyrraedd a gadael

Rhaid cofnodi a chadw manylion gweithwyr, ymwelwyr, masnachwyr sy'n gweithio ar y safle a chwsmeriaid hefyd am 21 diwrnod.

Nid oes angen cofnodi manylion y bobl sy'n dosbarthu cyflenwadau i'r safle neu phan fo cwsmeriaid yn casglu cynhyrchion cludfwyd.

Os yw cwsmeriaid neu ymwelwyr yn rhan o grŵp o bobl sy'n ffurfio cartref neu aelwyd estynedig, mae angen cofnodi a chadw enw a manylion cyswllt un aelod o'r aelwyd yn unig – yr 'aelod arweiniol'.

Cyfathrebu â chwsmeriaid

Dylech egluro i bobl pam fod eu manylion yn cael eu cofnodi.  Gall hyn fod naill ai ar lafar yn bersonol, drwy eich gwefan neu drwy roi hysbysiadau ar eich safle gyda'r wybodaeth berthnasol.

Ar fusnesau y mae'r rhwymedigaeth gyfreithiol i gofnodi a chadw manylion cyswllt perthnasol.

Os bydd rhywun yn gwrthod rhoi ei fanylion, neu os oes gennych reswm dros gredu y gallai fod yn rhoi manylion ffug, ni ddylid ei ganiatáu ar y safle.

Mae'r gofyniad yn berthnasol i'r busnesau canlynol*:

  • lletygarwch, gan gynnwys tafarndai, bariau, bwytai a chaffis (os yw safle'n cynnig cyfleusterau eistedd i mewn a bwyta a chludfwyd, bydd angen cofnodi a chadw manylion cyswllt y cwsmeriaid hynny sy'n eistedd i mewn)
  • sinemâu
  • gwasanaethau cyswllt agos gan gynnwys siopau trin gwallt, barbwyr, harddwyr, tatŵyddion, therapyddion chwaraeon a thylino
  • pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd dan do, campfeydd, sbas neu ganolfannau hamdden neu gyfleusterau dan do eraill
  • casinos
  • neuaddau bingo

*Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr a gallai fod yn ofynnol i fusnesau eraill gydymffurfio os yw'n rhesymol i ddisgwyl iddynt wneud hynny.

Bydd swyddogion gorfodi diogelu'r cyhoedd y cyngor yn cysylltu â busnesau perthnasol a/neu'n ymweld â hwy i sicrhau y cydymffurfir â'r gofynion hyn.

Os gwelir nad yw busnesau'n cydymffurfio, yna mae’n bosib y cyflwynir sancsiynau amrywiol gan gynnwys cyflwyno hysbysiadau gwella neu gau.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Llywodraeth Cymru

Newidiadau i Ganol Dinas Casnewydd

Wrth i gyfyngiadau Covid-19 gael eu codi'n raddol yng Nghymru, mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio gyda busnesau lleol i greu amgylchedd diogel ar gyfer ymwelwyr a siopwyr.

O Ddydd Llun 13 Gorffennaf ymlaen, pan fydd mwy o leoliadau lletygarwch a thwristiaeth yn gallu ailagor, bydd canol dinas Casnewydd yn elwa ar rai newidiadau i'r ardaloedd i gerddwyr. I gefnogi’r angen i gadw pellter cymdeithasol a gwella diogelwch ymwelwyr, mae rhwystrau ychwanegol yn cael eu gosod ar adegau allweddol i gynyddu’r ardaloedd sydd i gerddwyr yng nghanol y ddinas. Bydd mynediad cyfyngedig i gerbydau ar gyfer danfoniadau busnes rhwng 6am a 10am yn y strydoedd hyn.

Bydd y newidiadau hyn yn creu lle diogelach i’r bobl hynny sy’n siopa yn ogystal â chefnogi rhagor o dafarndai, bwytai a chaffis i ddechrau cynnig gwasanaethau awyr agored. Mae’r Cyngor wedi addasu ei bolisi palmentydd presennol i ganiatáu masnachu awyr agored a bydd yn cynnig atalfeydd i fusnesau sy’n dymuno manteisio ar y cyfle i weini cwsmeriaid y tu allan. Bydd yr atalfeydd nid yn unig yn helpu i ddarparu man awyr agored wedi'i reoli; caiff negeseuon arnynt eu defnyddio hefyd i atgoffa cwsmeriaid sut y gallant ymweld a siopa'n ddiogel yng Nghasnewydd.

Gweler map o’r newidiadau yng nghanol y ddinas yma

Cadw Pellter Cymdeithasol

Bydd busnesau cyfrifol yn ymwybodol o'u dyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y cedwir pellter cymdeithasol cyn ailagor. 

Fel lleiafswm, er mwyn masnachu ac aros ar agor, mae'n ofynnol i fusnesau:

  • Ystyried y nifer fwyaf o gwsmeriaid y gellir eu caniatáu'n ddiogel ar y safle, a chymryd camau i osgoi mynd y tu hwnt i'r terfyn hwn
  • Cadw'r pellter a argymhellir rhwng pobl yn ciwio i fynd i'r safle neu unrhyw adeilad cyfagos
  • Cynnal y pellter a argymhellir rhwng cwsmeriaid a staff ar y safle

Cofiwch nad oes rhaid i ddau berson o'r un aelwyd, ynghyd ag unrhyw ofalwr a'r sawl y maent yn eu cynorthwyo, i gadw pellter oddi wrth ei gilydd. 

Cyfrifoldeb yr oedolyn cysylltiedig yw sicrhau bod plant yn cadw eu pellter oddi wrth bobl eraill.

Bydd swyddogion y Cyngor yn monitro ardaloedd masnachol er mwyn sicrhau y gall pobl ddychwelyd i'w dewis leoliadau yn ddiogel.  

Byddant yn rhoi arweiniad a chyngor, yn tynnu sylw at y mannau lle gellir gwneud gwelliannau ac yn ymateb i adroddiadau o dorri'r rheolau.

Gwybodaeth ychwanegol ar gyfer sectorau

Manwerthu

Bwriedir ailagor manwerthu nad yw’n hanfodol ddydd Llun 12 Ebrill.

Darllenwch gyngor coronafeirws Llywodraeth Cymru i fanwerthwyr am ragor o gyngor a mesurau a argymhellir. 

Twristiaeth a lletygarwch

Bwriedir ailagor lletygarwch ddydd Llun 26 Ebrill.

Darllenwch gyngor coronafeirws Llywodraeth Cymru ar gyfer twristiaeth a lletygarwch

Fel Cyngor, rydym yn ystyried sut y gallwn helpu'r sector hwn i ffynnu ar ôl Covid-19 gan gynnwys adolygu ein polisi ar balmentydd a monitro'n agos gynlluniau’r llywodraeth i ganiatáu i fwy o dafarndai, bwytai a chaffis wasanaethu cwsmeriaid yn yr awyr agored.

Rydym hefyd yn gweithio gyda busnesau yng nghanol y ddinas i nodi a gweithredu ffyrdd o gau a fydd yn cefnogi cadw pellter cymdeithasol a chynyddu lle i gerddwyr, yn ogystal ag ategu trefniadau eistedd yn yr awyr agored.

Cynghorir busnesau i gynnig system archebu lle y bo’n bosibl.

Barod Amdani 

"Barod Amdani" yw marc swyddogol y DG i ddangos bod busnes twristiaeth a lletygarwch wedi gweithio'n galed i ddilyn canllawiau Covid-19 y llywodraeth a'r diwydiant sy’n dangos fod proses ar waith i gynnal glanweithdra a chynnal cadw pellter cymdeithasol cymdeithasol.

Green We're Good to Go logo which includes a big green tick

Gall busnesau wneud cais nawr i gadarnhau eich bod wedi cymryd y camau angenrheidiol ac y byddwch yn gweithredu yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth a chanllawiau Iechyd y Cyhoedd (yn ymwneud â busnesau Cymru) a nodwyd yn glir yn eich asesiad risg COVID-19.

Ar ôl cwblhau'r cais yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn tystysgrif, marc a phecyn cymorth gyda chamau ymarferol i ddweud wrth eich cwsmeriaid bod eich busnes yn 'Barod Amdani'.

Hoffem weld pob busnes yng Nghasnewydd yn ennill y marc hwn fel y gall ein preswylwyr a’n hymwelwyr fod yn hyderus ym mhob un o'n cyrchfannau. 

I gael mwy o arweiniad ar gadw pellter cymdeithasol ar gyfer eich busnes neu i roi gwybod am achos o dorri'r rheolau, ffoniwch 01633 414970.

Bookinglive

Mae'r cwmni lleol Bookinglive, un o’r 50 prif gwmni technoleg yng Nghymru, yn mynd i sicrhau bod eu meddalwedd amserlennu ar gael yn rhad ac am ddim i fusnesau lleol.

Mae'r broses gofrestru yn syml, cofrestru ar gyfer Bookinglive.

Ar ôl cofrestru, rhowch wybod i'ch cwsmeriaid drwy argraffu ac arddangos y poster Bookinglive. 

Rhanbarth gwella busnes 

Darllenwch sut mae Casnewydd Nawr, Ardal Gwella Busnes (AGVB) y ddinas, hefyd yn cynorthwyo ei aelodau i ailagor a gweithredu’n ddiogel.