Platinum Jubilee Beacon Trail
Nawr ar agor!
Bydd Casnewydd yn cymryd rhan mewn llwybr realiti estynedig wedi'i gynllunio'n arbennig i ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines.
Mae'r llwybr yn brofiad lle mae’r chwaraewyr yn ymweld â saith cymeriad sydd wedi dod yn fyw o Balas Buckingham i ymweld â lleoliadau o amgylch Casnewydd ar ddiwrnod allan.
Mae’r chwaraewyr, dan arweiniad Syr Barnaby Beacon, yn ymweld â phob cymeriad, gan gynnwys Charlie Crown a Theadora Throne, gan ddysgu am ddegawd gwahanol yn nheyrnasiad 70 mlynedd Ei Mawrhydi a 'dewis eu hantur eu hunain' wrth iddynt symud ar hyd y llwybr.
Mae'r profiad arloesol hwn yn gwbl ddigyswllt ac am ddim – y cyfan sydd ei angen arnoch yw ffôn clyfar. Mae mor hawdd cymryd rhan – sganiwch y codau QR a ddangosir ym mhob un o'r lleoliadau yng nghanol y ddinas a Chaerllion, dewiswch beth sy'n digwydd yn y stori a gweld y cymeriadau'n dod yn fyw mewn realiti estynedig. Gallwch hyd yn oed gymryd hunluniau a recordio fideos gyda nhw!
Casglwch y digidol stampiau ym mhob lleoliad a gallwch hefyd hawlio pecyn hwyl digidol ac e-lyfr am ddim sy'n cynnwys diweddglo’r stori.
Bydd y llwybr ar gael o 30 Ebrill tan 12 Mehefin a bydd yn helpu i greu bwrlwm a chodi ymwybyddiaeth yn yr wythnosau sy'n arwain at gynnau Coelcerth Jiwbilî Casnewydd.
Bydd rhagor o fanylion am y llwybr ar gael yn www.jubileebeacontrail.com
Mae lleoliadau'r llwybrau fel a ganlyn – chwiliwch am y cymeriadau lliwgar fydd yn cael eu harddangos!
- Coffiology, Stryd Fawr, Caerllion
- Fresh Start, Comin Goldcroft, Caerllion
- Marchnad Casnewydd, Stryd Fawr, Casnewydd
- Coffee Corner, Rhodfa Friars Walk, Casnewydd
- Theatr Glan yr Afon, Kutaisi Walk, Casnewydd
- Octopus Lounge, East Dock Road, Casnewydd
- Hortons Coffee House, Rhodfa’r Mileniwm, Casnewydd
Cyflwynir Llwybr y Beacon mewn partneriaeth â High Street Safari. Mae'r llwybr yn ddiwrnod allan arloesol a hwyliog i chwaraewyr, a gallwch hefyd ddewis gyfrannu i Help for Heroes i gefnogi ein cyn-filwyr a'u teuluoedd.