Gwasanaeth llyfrgell i bobl sy'n gaeth i'r tŷ
Mae’r gwasanaeth llyfrgell caeth i’r tŷ Casnewydd yn cynnig llyfrau i unrhyw un sy’n methu ag ymweld â llyfrgell leol un ai dros dro neu’n barhaol.
Mae’n bosibl y bydd preswylwyr Casnewydd nad ydynt yn gallu mynd i’r llyfrgell oherwydd oedran, salwch neu anabledd sydd heb unrhyw un i fynd i’r llyfrgell ar eu rhan yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth caeth i’r tŷ.
Bydd eitemau'n cael eu cludo i'ch cartref bob mis am ddim!
Gall aelodau gwasanaeth caeth i’r tŷ fenthyg hyd at 20 o eitemau ac mae’r gwasanaeth am ddim.
Gallwn gyflenwi unrhyw lyfr o Lyfrgelloedd Casnewydd gan gynnwys llyfrau clywedol neu lyfrau print mawr.
Bydd staff llyfrgell cymwys yn dewis eich llyfrau gan ddefnyddio proffil darllenwr unigol fel y byddwch yn derbyn llyfrau yr ydych eisiau eu darllen.
Bydd gwirfoddolwr yn dod â’ch llyfrau a’r eitemau clywedol i’ch drws unwaith y mis, ac yn casglu’r llyfrau yr ydych eisoes wedi’u darllen.
Oes gennych chi ddiddordeb?
I ymgeisio ar gyfer y gwasanaeth llyfrgelloedd caeth i'r tŷ neu os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli i gludo llyfrau, e-bostiwch central.library@newport.gov.uk neu cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd.