Ymunwch â Llyfrgelloedd Casnewydd
Os ydych yn byw, yn gweithio neu’n astudio yng Nghasnewydd gallwch ymuno â Llyfrgelloedd Casnewydd a:
- benthyg hyd at 20 o lyfrau am gyfnod o dair wythnos (oedolion ac ieuenctid)
- adnewyddu benthyciadau’n awtomataidd
- mynediad ar-lein am ddim at eLyfrau, eLyfrau Clywedol ac eGylchgronau
- defnyddio ystod o adnoddau gwybodaeth ar-lein
- ymchwilio i hanes teulu gyda mynediad am ddim at Ancestry.com a FindMyPast mewn llyfrgelloedd
- manteisio ar wi-fi am ddim ym mhob llyfrgell
- cewch ddefnyddio cyfrifiadur am ddim am ddau awr yn eich llyfrgell leol
Os ydych dros 16 oed gallwch ymuno â Llyfrgelloedd Casnewydd heddiw drwy lenwi’r ffurflen ar-lein neu os yw’n well gennych, gofynnwch am ffurflen ymuno o unrhyw lyfrgell yng Nghasnewydd.
Aelodaethau llyfrgell eraill
Gwasanaeth danfon cartref llyfrgell– ar gyfer pobl sy’n methu ag ymweld â’r llyfrgell oherwydd oedran, salwch neu anabledd.
Casgliadau’r Blynyddoedd Cynnar – gall rheolwyr meithrinfeydd neu gynlluniau chwarae â chyfeiriad parhaol ymgeisio am gasgliad bychan o lyfrau plant y mae modd eu newid yn aml.
Schools and educators can also apply for special teacher and class tickets. Email lion@newport.gov.uk for more information.
Telerau ac amodau a chostau