Awduron ac adroddwyr straeon ifanc
Mae pobl ifanc Casnewydd wrth eu boddau yn ysgrifennu ac adrodd straeon ac mae Llyfrgelloedd Casnewydd yma i helpu.
Dilynwch y dolenni isod i ddarllen am rai o’r projectau a grëwyd gan blant a phobl ifanc Casnewydd gyda chymorth awduron proffesiynol, adroddwyr straeon a darlunwyr.
Antholeg o storïau a luniwyd gan blant o ysgolion cynradd Alway, Glan Usk, Llanmartin, Llyswyry, Maerun, St Gabriel, St Gwynllyw ac Ysgol Gymraeg Casnewydd gydag ychydig o help gan yr awdur a’r darlunydd i blant, Thomas Docherty.
Mae’r casgliad darluniadol hwn o gerddi gan ddisgyblion blwyddyn 5 Ysgol Gynradd Millbrook yn dweud pam eu bod yn caru darllen a’u llyfrgell leol.
Gyda chymorth yr awdur plant John Townsend a’r arbenigwyr hanes lleol Monty Dart, Stefan Elis, Sarah Gimblet ac Alex Jarvis, crëwyd Newport Secrets gan fechgyn a merched rhwng 7 – 11 oed o ysgolion cynradd Somerton, Eveswell, Sant Mihangel, y Gaer, Llanmartin a Brynglas.
Y Sgwad Sgwennu Ifanc
Mae’r Sgwad Sgwennu Ifanc yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen gan weithio gyda Llenyddiaeth Cymru.
Caiff plant sydd â thalent anhygoel mewn ysgrifennu creadigol neu sy’n angerddol dros ddarllen a dweud straeon eu henwebu gan eu hysgol.
Rhwng mis Chwefror ac Ebrill 2016 fe wnaeth aelodau Sgwad Sgwennu Ifanc Caerffili, Casnewydd a Thorfaen fwynhau cyfres o weithdai ysgrifennu gyda’r bardd Rhian Edwards a’r cyfansoddwr Helen Woods fel rhan o broject In Parenthesis Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru.
Casgliad o gerddi gan y Sgwad Sgwennu Ifanc a ysbrydolwyd gan daith trwy Dŷ Tredegar yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghasnewydd.