Dewch yn Gadgeteer yn llyfrgelloedd Casnewydd yr haf hwn
Mae llyfrgelloedd Casnewydd yn galw ar blant i ymuno â Her Ddarllen yr Haf 2022.
Gwyddom fod darllen er pleser yn bwysig i ddatblygiad plant, felly rydym am annog teuluoedd i ddarllen a chael hwyl gyda'i gilydd trwy gydol yr haf! Bydd gwobrau ar gael am ddarllen ac adolygu llyfrau!
Bydd plant yn gallu ymuno â chwe Gadgeteer ffuglennol. Mae'r cymeriadau – y deuir â nhw’n fyw gan yr awdur a'r darlunydd plant Julian Beresford – yn defnyddio eu chwilfrydedd a'u synnwyr rhyfeddod i ddeall y wyddoniaeth y tu ôl i amrywiaeth eang o ddiddordebau, o ffasiwn a thechnoleg i goginio a cherddoriaeth.
Yr haf hwn, gall plant 4-11 oed ymweld â Llyfrgelloedd Casnewydd i gwrdd â'r Gadgeteers ac i gymryd rhan yn Her Ddarllen yr Haf ar thema gwyddoniaeth ac arloesi.
Bydd Gadgeteers yn lansio mewn llyfrgelloedd ledled Casnewydd ar 9 Gorffennaf gan barhau tan 17 Medi.
Ymweliadau a gweithgareddau gan awduron
Trwy gydol yr haf bydd ymweliadau a gweithgareddau gan awduron yn llyfrgelloedd Casnewydd. Mae angen cadw lle ar gyfer y rhain.
Dydd Gwener 5 Awst
Straeon a chrefftau Hwyl yr Haf
- Llyfrgell Malpas 11am - 12pm
- Tŷ Tredegar, 2.30pm - 3.30pm (hwyl ddigidol)
Dydd Llun 8 Awst
Straeon a chrefftau Hwyl yr Haf
- Llyfrgell Betws, 11am - 12.00pm
Dydd Mawrth 9 Awst
Straeon a chrefftau Hwyl yr Haf
- Llyfrgell Ty-du, 2.30pm - 3.30pm
Dydd Mercher 10 Awst
Straeon a chrefftau Hwyl yr Haf
- Llyfrgell Caerllion, 11am - 12pm
- Llyfrgell Ringland, 2.30pm - 3:30pm
Dydd Iau 11 Awst
Ymweliad awdur - Llyfrgell dros dro, Uned 16 Canolfan Ffordd y Brenin
Jenny Valentine yw awdur penigamp Finding Violet Park, The Ant Colony a The Double Life of Cassiel Roadnight. Mae ei chyfres newydd sy'n cynnwys Joy, merch 9 oed, wedi'i hysgrifennu ar gyfer plant 7-12 oed ac mae'n llawn yr empathi a’r gymeriadaeth realistig wych sydd mor nodweddiadol o waith Jenny.
Amserau: 10am - 11am a 11:30am - 12:30pm
Dydd Gwener 12 Awst
Straeon a chrefftau Hwyl yr Haf
- Llyfrgell Malpas, 11am - 12pm
Dydd Llun 15 Awst
Straeon a chrefftau Hwyl yr Haf
- Llyfrgell Betws, 11am - 12pm (hwyl ddigidol)
Dydd Mawrth 16 Awst
Straeon a chrefftau Hwyl yr Haf
- Llyfrgell Tŷ-du, 2.30pm - 3.30pm (hwyl ddigidol)
Dydd Mercher 17 Awst
Ymweliad awdur - Hyb Cymdogaeth y Dwyrain, Cylch Ringland
Mae Shoo Rayner yn awdur, yn storïwr, yn ddarlunydd ac yn feistr darlunio ar YouTube. Mae wedi ysgrifennu a darlunio dros ddau gant o lyfrau. Bydd ei weithdai straeon/darlunio yn siarad am ei lyfrau a'r broses o’u creu, yna'n dangos sut i ddatblygu darlun a all fod yn ddrafft cyntaf ac yn ysbrydoliaeth ar gyfer stori.
Amserau: 10am - 11am a 11:30am - 12:30pm
Straeon a chrefftau Hwyl yr Haf
- Llyfrgell Caerllion, 11am - 12pm (hwyl ddigidol)
Dydd Iau 18 Awst
Ymweliad awdur - Llyfrgell dros dro, Uned 16 Canolfan Ffordd y Brenin
Mae Shoo Rayner yn awdur, yn storïwr, yn ddarlunydd ac yn feistr darlunio ar YouTube. Mae wedi ysgrifennu a darlunio dros ddau gant o lyfrau. Bydd ei weithdai straeon/darlunio yn siarad am ei lyfrau a'r broses o’u creu, yna'n dangos sut i ddatblygu darlun a all fod yn ddrafft cyntaf ac yn ysbrydoliaeth ar gyfer stori.
Amserau: 10am - 11am; 11:30am - 12:30pm; 2pm - 3pm
Dydd Gwener 19 Awst
Straeon a chrefftau Hwyl yr Haf
- Llyfrgell Malpas, 11am - 12pm (hwyl ddigidol)
Dydd Iau 25 Awst
Ymweliad awdur - Llyfrgell dros dro, Uned 16 Canolfan Ffordd y Brenin
Mae Cat Weatherill yn awdur ac yn storïwr o enw da rhyngwladol. Mae gwaith Cat yn cynnwys Wild Magic, Snowbone, Barkbelly, By Lantern Light, a'i llyfr diweddaraf Dream Adventures, sy'n cynnwys ei hanturiaethau teithio go iawn. Mae ei sesiynau difyr ac ysbrydoledig yn cynnig sesiynau stori rhyngweithiol iawn gan gynnwys dawns, cerddoriaeth a phypedau ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar.
Amserau: 10am - 11am; 11:30am - 12:30pm; 2pm - 3pm
Dydd Iau 1 Medi
Ymweliad awdur - Llyfrgell dros dro, Uned 16 Canolfan Ffordd y Brenin
Ymunwch â ni am sgwrs ddifyr a rhyngweithiol gan yr awdur plant penigamp Christopher Edge sy’n seiliedig ar ei nofelau penigamp, gyda chwisiau llawn hwyl, delweddau trawiadol, ac arddangosiadau o rai o'r wyddoniaeth go iawn y tu ôl i'r straeon.
Amserau: 10am - 11am; 11:30am - 12:30pm; 2pm - 3pm
Cynhyrchir Her Ddarllen yr Haf gan yr Asiantaeth Ddarllen ac fe'i cyflwynir gan Lyfrgelloedd Casnewydd.