Clwb Stori

Mae annog plentyn i fwynhau darllen o oedran cynnar yn cael effaith gadarnhaol ar eu datblygiad ac mae eu dysgu'n rhoi hwyl a mwynhad mawr i blant a theuluoedd ar yr un pryd.

Mae Clybiau Stori'n amgylchedd anffurfiol a chyffrous sy’n helpu rhieni i gynnal diddordeb eu plant cyn ysgol mewn darllen. 

Ym mhob Clwb Stori mae modd i blant a’u gofalwyr ymuno i ganu caneuon a rhigymau, gwrando ar storïau a mwynhau gweithgaredd crefft cysylltiedig â thema stori'r wythnos, ac mae’r cyfan yn rhad ac am ddim.

Mae Clybiau Stori yn ailgychwyn yn y Llyfrgelloedd canlynol o'r wythnos sy'n dechrau 8 Tachwedd 2021:

Llyfrgell Betws - Dydd Llun, 11am - 11.45am

Llyfrgell Caerllion - Dydd Mercher, 11am - 11:45am

Y Llyfrgell Ganolog - Dydd Iau, 11am – 11.45am

Llyfrgell Malpas - Dydd Gwener, 11am – 11.45am 

Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth Tŷ Tredegar - Dydd Gwener, 2pm - 4:45pm

Gyfarfod a gwneud ffrindiau a chael hwyl yn annog cariad gydol oes at ddarllen yn eich plentyn.