Asiantaeth Ddarllen
Mae Llyfrgelloedd Casnewydd yn cefnogi’r fenter genedlaethol hon gan yr Asiantaeth Ddarllen sy'n cefnogi pobl i ddarllen er pleser.
Mae’r Asiantaeth Ddarllen yn dweud:
- Mae un o bob chwe pherson yn cael trafferth darllen
- Mae Reading Ahead wedi’i ddylunio i helpu pobl i wella eu sgiliau darllen a datblygu cariad at ddarllen
- Cymerodd 45,000 o bobl ran yn Reading Ahead yn 2015-16
- Mae ymatebwyr i’r arolwg yn dweud bod Reading Ahead yn rhoi hwb i’w hyder wrth ddarllen
Gofynnir i bobl sy’n cymryd rhan ddewis chwe pheth i’w darllen – gallai’r rhain fod yn llyfrau, papurau newydd, cylchgronau, gwefannau ac ati – a’u cofnodi, eu sgorio a’u hadolygu mewn dyddiadur.
Gall dyddiaduron wedyn gael eu cynnwys mewn raffl genedlaethol i ennill gwobrau gwych.
Gallwch gasglu dyddiadur Reading Ahead o unrhyw un o lyfrgelloedd Casnewydd – gofynnwch i aelod o staff.
Darllenwch fwy am y cynllun, rhannwch eich barn ar yr hyn rydych yn ei ddarllen, a chymerwch ran mewn cystadlaethau ar y wefan Reading Ahead.
Beth am gofrestru heddiw? Byddwn gyda chi ar bob cam!
TRA90295 3/09/2018