Sesiynau'r llyfrgell sy'n gyfeillgar i blant ag Awtistiaeth
Gall ymweld â’r llyfrgell fod yn her i blant ag anhwylder sbectrwm awtistig neu sydd ag anawsterau synhwyraidd neu ddysgu.
O ddydd Llun 17 Medi, ac yna bob trydydd dydd Llun y mis
Bydd sesiynau cyfeillgar i awtistiaeth yn cael eu cynnal yn fisol yn y Llyfrgell Ganolog a fydd ar gau i’r cyhoedd am gyfnod fel y gall plant fwynhau ymweliad arferol â'r llyfrgell heb gymaint o sŵn.
Gall plant gymryd rhan mewn sesiwn odli a chrefftau 45 munud, neu sesiwn adeiladu, creu a chwarae, neu gallant ddod i ddewis eu llyfrau mewn amgylchedd tawel a diogel.
Mae’r sesiynau’n cynnwys y canlynol:
- Amser i ddewis llyfrau a helpu wrth eu cyflwyno
- Parth tawel o’r enw ‘Y Cwtsh’ i encilio iddo pryd bynnag y bo angen
- Sesiwn stori, odli a chrefftau 45 munud gydag amserlen ymlaen llaw fel na fydd unrhyw beth annisgwyl yn digwydd
- Defnydd o gyfrifiaduron
- Arwyddion â lluniau ar hyd a lled y llyfrgell sy’n cyfateb i’n map o’r llyfrgell
- Toiled hygyrch
Pryd a ble?
Bydd y sesiynau sy’n gyfeillgar i blant ag awtistiaeth yn cael eu cynnal unwaith y mis yn Y Llyfrgell Ganolog rhwng 3.30pm a 5.00pm ar ddydd Llun.
Sesiynau’r llyfrgell sy’n addas i blant ag Awtistiaeth
2019
|
|
21 Ionawr |
Llyfrgell a Creu, Adeiladu a Chwarae – i blant 8+ (rhaid archebu ar gyfer Creu, Adeiladu a Chwarae) |
18 Chwefror |
Llyfrgell a seswn Oriel Gelf |
18 Mawrth |
Sesiwn Llyfrgell |
15 Ebrill |
Llyfrgell a Creu, Adeiladu a Chwarae – i blant 8+ (rhaid archebu ar gyfer Creu, Adeiladu a Chwarae) |
20 Mai |
Sesiwn Llyfrgell |
17 Mehefin |
Llyfrgell a sesiwn amgueddfa |
Gan fod y llyfrgell ar gau ar ddydd Llun, bydd aelod o staff wrth y fynedfa o 3.30pm tan 4pm i roi mynediad i chi, felly bydd angen i chi gyrraedd o fewn y cyfnod hwnnw.
Bydd y sesiynau odli a chrefftau yn para am 45 munud, ac mae'r ymweliad cyfan, gan gynnwys amser i ddewis a menthyg llyfrau, yn 90 munud.
Cyn eich ymweliad
Os oes gennych unrhyw gwestiwn, e-bostiwch lending.library@newport.gov.uk neu ffoniwch (01633) 656656 a byddwn yn gwneud ein gorau i’ch helpu.
TRA91454 26/9/2018