Cymorth TG Llyfrgelloedd

 Mae ein holl sesiynau cymorth TG am ddim. Gallwch gadw lle arnynt mewn unrhyw lyfrgell neu drwy e-bostio lion@newport.gov.uk

 Sesiynau rhyngrwyd 1-2-1

Eisiau adeiladu eich hyder a’ch sgiliau digidol? Gallwn gynnig cymorth wedi'i deilwra o'ch cwmpas i gael y gorau o'ch dyfeisiau. Gofynnwch i aelod o staff am ragor o wybodaeth.

Cymorthfeydd eLyfrau

Os ydych yn cael trafferth gyda’n gwasanaethau eLyfr gallwch archebu sesiwn un-i-un gydag aelod staff a fydd yn eich tywys drwy gamau dechrau ar eich dyfais eich hun a chael y gorau o’r gwasanaethau.

Cadwch le rhag blaen yn y sesiynau hyn drwy e-bostio lion@newport.gov.uk 

Clwb codio

Ffordd wych o ddenu plant at gyfrifiaduron o oed cynnar.

Byddan nhw’n dysgu sut i greu delweddau, animeiddiadau ac hyd yn oed gemau cyfrifiadurol syml gan ddefnyddio Scratch.

Cynhelir y sesiynau hyn dros 12 wythnos ac mae angen cadw lle ymlaen llaw arnynt.

E-bostiwch lion@newport.gov.uk  i gael rhagor o fanylion.