Cyfrifiaduron
Mae cyfrifiaduron ym mhob llyfrgell gyhoeddus yng Nghasnewydd at ddefnydd y cyhoedd y gall aelodau eu defnyddio am ddim am hyd at ddwy awr y dydd.
Mae gan y cyfrifiaduron gysylltiadau USB, y rhyngrwyd a nodweddion hygyrchedd.
Mae gan y llyfrgelloedd canlynol lecyn Wi-Fi at ddefnydd y cyhoedd:
Archebu lle ar gyfrifiadur
Os ydych yn aelod o Lyfrgelloedd Casnewydd gallwch gadw lle ar gyfrifiadur drwy ofyn i aelod staff yn unrhyw un o lyfrgelloedd Casnewydd.
Argraffu
Mae gan bob llyfrgell yng Nghasnewydd argraffydd A4 gwyn a gellir argraffu tudalennau am ffi fach.
Sganio
Mae gan y Llyfrgell Ganolog bedwar cyfrifiadur sydd wedi eu cysylltu â sganwyr y gellir eu defnyddio am ddim.
Gall fod yn ddefnyddiol archebu’r peiriannau hyn ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod mynediad at sganiwr gennych.
Cymorth TG
Mae Llyfrgelloedd Casnewydd yn cynnig ystod o sesiynau cymorth TG.