Curry On The Curve
Mae’r bwyty hwn yn cynnig ystod o opsiynau bwyta iachus, naill ai i’w bwyta yn y bwyty neu fynd â nhw gyda chi. Maent wedi cydweithio â chyflenwyr lleol yng Nghymru sy'n deall eu hymrwymiad i ymagwedd ffres, boed hynny at y bwyd, yr addurniad, neu’r ffa coffi a ddaw o Arfordir Malabar yn Ne India ac sy’n cael eu rhostio a’u malu gyda chariad yn lleol yng Nghymru.
Mae’r bwydlenni'n cynrychioli coginio rhanbarthol India a darperir ar gyfer y plant hefyd, gyda seigiau cartref heb tsili.
Mwynhewch ginio neu swper iachus, defnyddiwch y WiFi am ddim i bori'n hamddenol neu cynhaliwch gyfarfod busnes mewn cornel dawel, gan ddefnyddio’r cyfleusterau argraffau ar y safle.
Hefyd darperir ar gyfer achlysuron a digwyddiadau preifat.
Parcio am ddim. Os ydych yn talu ac yn arddangos yn y maes parcio aml-lawr gyferbyn, fe gewch ad-daliad ar y tocyn £1 yn y bwyty.
Cyfleusterau
- Llysieuol
- Bwyd fegan
- Opsiynau di-glwten
- Mae gwybodaeth lawn am alergenau ar y safle
- Wedi trwyddedu i werthu alcohol
- Dosbarthu bwyd a chludfwyd
- Mynediad i gadeiriau olwynion
- Bwydlen i blant
- Derbynnir cardiau credyd
Gwasanaeth Bwyd
Nos Fawrth – nos Iau 5.30 – 11pm
Nos Wener a nos Sadwrn 5.30pm- 1am
Nos Sul 5.30-10pm.
Ar gau ddydd Llun. Ar agor ar gyfer cinio prynhawn i bartïon preifat a threfniadau ymlaen llaw trwy roi rhybudd ymlaen llaw
Curry on the Curve
34 Clarence Place
Casnewydd
NP19 0AG
Ffôn: +44(0)1633 547474
Gwefan: www.curryonthecurve.co.uk
E-bost: ak@curryonthecurve.co.uk