Caffi'r Gwlyptiroedd
Mae gan y caffi yng nghanolfan ymwelwyr Gwarchodfa Gwylptiroedd Casnewydd ffenestri mawr, panoramig sy’n edrych dros y warchodfa a’r cefn gwlad amgylchynol, yn ogystal ag ardal ddecio awyr agored gyda lleoedd eistedd ychwanegol.
Mae’r caffi’n gweini ei goffi wedi’i rostio ei hun, sy’n Fasnach Deg, organig ac wedi’i ardystio’n gyfeillgar i adar gan y Sefydliad Smithsonian.
Mae’r bwyd a gynigir yn cynnwys cawsiau a chigoedd Cymreig lleol, cacennau a wnaed yn lleol, cawl heb glwten, a phecynnau bwyd i blant.
Cyfleusterau
- Dewisiadau llysieuol
- Dewisiadau fegan
- Gofynion dietegol arbennig
- Hygyrch i gadeiriau olwyn
- Bwydlen i blant
- Parcio ar gael
Gwasanaeth bwyd
10am-4pm bob dydd (ar wahân i ddydd Nadolig).
Caffi’r Gwlyptiroedd
Gwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd, West Nash Road, Casnewydd
NP18 2BZ
Ffôn: +44(0)1633 636363
Gwefan: www.rspb.org.uk
E-bost: newport-wetlands@rspb.org.uk