Parc Pantry
Mae’n gysyniad newydd, ac yn siop leol newydd, wedi’i seilio ar gynhyrchion lleol, ffres a da, a sefydlwyd gan Matt ac Ant, sy’n ffrindiau ers plentyndod. Gweledigaeth Parc Pantry yw bod popeth a welwch yn y siop ar gael i’w brynu, o’r bwydydd cartref i’r smwddis unigryw, yn ogystal â’r dodrefn a’r goleuadau anarferol.
Mae adran deli sy’n gwerthu bara ffres, pasteiod, cigoedd a chawsiau arobryn, a chaffi sy’n gweini cacennau cartref, te prynhawn, coffi moethus, a byrbrydau, danteithion a chiniawau.
Mae Parc Pantry’n ganolfan ar gyfer y gymuned leol sy’n cynnal digwyddiadau arbennig, ac mae ar gael i’w logi’n breifat ar gyfer busnes, grwpiau ac achlysuron teuluol.
Cyfleusterau
Dewisiadau llysieuol ar gael
Hygyrch i gadeiriau olwyn
Bwydlen i blant
Derbynnir cardiau credyd
Gwasanaeth bwyd:
Dydd Llun – dydd Gwener, 7.30am-5pm; dydd Sadwrn, 9am-5pm; dydd Sul, 10am-4pm (ac eithrio dydd Sul olaf y mis pan fydd ar gau ar gyfer glanhau trylwyr)
Parc Pantry
163-165 Larch Grove
Malpas
Casnewydd
NP20 6LA
Ffôn: +44(0)1633 853656
Gwefan: www.parcpantry.co.uk
E-bost: hello@parcpantry.co.uk