Mae Allt-yr-ynn yn un o ddwy Warchodfa Natur Leol yng Nghasnewydd a ddynodwyd ym 1994 a saif rhwng Camlas Sir Fynwy-Aberhonddu ac Allt-yr-yn View, NP20 5EH.
Cyf. Grid yr Arolwg Ordnans: ST 300 889
Mae’n ymestyn dros safle 32 erw hen blasty a lido Allt-yr-yn, a hen chwarel gerrig. Mae’r lido wed’i droi’n un o’r pyllau a dim ond ychydig gerrig o’r plasty sydd ar ôl.
Mae rhannau o’r coetir wedi’u nodi’n goetir lled-naturiol hynafol, oherwydd bod y tir hwnnw wedi bod dan orchudd coed brodorol yn ddi-dor ers y 1600au gan ei wneud yn arbennig o bwysig i fywyd gwyllt.
Gweler map o Warchodfa Natur Leol Allt-yr-ynn
Mynediad
Gellir ymweld â’r warchodfa am ddim ac mae ar agor drwy’r flwyddyn.
Weithiau cyfyngir ar fynediad oherwydd gwaith cynnal a chadw, felly rhowch sylw i unrhyw arwyddion a’u dilyn.
Mae nifer o lwybrau a llwybrau ceffyl yn croesi’r warchodfa ac yn aml maent yn anwastad ac yn fwdlyd, felly gwisgwch esgidiau addas.
Gellir cyrraedd y warchodfa hefyd o Brickyard Lane, oddi ar Highcross Road.
DS: Nid oes lle parcio yn Brickyard Lane; dylid parcio ym mhen y stryd a cherdded i lawr.
I wneud y daith gerdded yn hirach, mae llwybr cerdded a llwybr ceffyl yn cysylltu Allt-yr-ynn yn uniongyrchol â Chanolfan y Pedwar Loc ar Ddeg.
Er bod maes parcio bach ar waelod y lôn oddi ar Allt-yr-yn View, efallai bydd yn haws i chi barcio ar yr heol a cherdded i lawr y llwybr ceffyl.
Mae gwasanaeth bws rhif N3 yn teithio ar hyd Allt-yr-yn View ac Allt-yr-yn Road bob awr.
Yr hyn sydd i’w weld
Yr onnen yw’r goeden fwyaf cyffredin ynghyd â choed bedw, ceirios melys a derw, gydag enghreifftiau o’r gollen a’r ddraenen wen lai o faint oddi danynt, ac mae pob un o’r rhain yn rhywogaethau brodorol.
Ceir rhai castanwydd a masarn arbennig o fawr sydd wedi cael eu cyflwyno.
Ar lawr y coetir, mae blodau’r gwanwyn megis clychau’r gog, blodau’r gwynt a llygaid Ebrill yn doreithiog ac yn yr hydref mae’r coetir yn llawn ffyngau ac mae’r coed yn newid trwy amrywiaeth o liwiau.
Mae’r coetir yn gartref i bron 50 o wahanol rywogaethau o adar, ac mae 7 rhywogaeth o famaliaid wedi cael eu cofnodi yn y warchodfa, yn ogystal â madfallod dŵr, brogaod a nadredd y glaswellt.
Mae’r warchodfa hefyd yn cynnwys dôl hynafol pum erw sy’n cael ei rheoli yn y modd traddodiadol er mwyn cynnal blodau gwyllt megis y tegeirian brych cyffredin a’r gribell felen sy’n gorchuddio’r ddaear yn yr haf.
Gwyddys bod y tri phwll yn y warchodfa yn cael eu defnyddio gan leision y dorlan, a chyda’r hwyr mae ystlumod yn eu defnyddio i hela am bryfed uwchben wyneb y dŵr.
Mae’r ddôl a’r pyllau i gyd yn cael eu croesi gan nifer o lwybrau a llwybrau ceffyl.
Os byddwch yn ymweld yn y gwanwyn, ewch i’r coetir i weld blodau’r gwanwyn, gwrando ar gân yr adar a chwilio am rifft brogaod neu benbyliaid yn y pyllau.
Yn yr haf, rhyfeddwch ar yr holl flodau gwyllt ac ieir bach yr haf yn y ddôl, ac yn yr hydref bydd y coetir unwaith eto’n lle da i chwilio am ffyngau a gweld lliwiau hydrefol.
Peidiwch ag anghofio’r gaeaf! Gall coetiroedd yn y gaeaf fod yn lleoedd gwych i weld adar.
Coetir collddail– Mae’r coetir yma yn eithaf amrywiol a byddwch yn gweld enghreifftiau o’r onnen, y fedwen, y geiriosen a’r dderwen, yn ogystal â chastanwydd a masarn mawr a blodau megis llygad Ebrill, blodau'r gwynt a chlychau'r gog.
Glaswelltir niwtral – Mae’r ddôl hynafol pum erw yn llawn blodau gwyllt megis tamaid y cythraul a’r gribell felen, sy’n gorchuddio’r ddaear ddechrau’r haf.
Pyllau a nentydd - Mae tri phwll wedi’u cysylltu gan nentydd yn creu cynefin da i ddyfrgwn yn ogystal â lle pysgota da i las y dorlan. Eisteddwch a gwyliwch am ennyd i weld yr hyn sydd yno.
Tegeirianau - Mae’r tegeirianau yn y ddôl yn arbennig iawn. Dewch ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf am y sioe orau.
Addysg
Mae Allt-yr-ynn yn safle addysg addas iawn, a chanddo amrywiaeth o gynefinoedd gwahanol ar un safle a cylch boncyffion yn y coetir gyda thwll tân. Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnal sesiynau addysg amgylcheddol am ddim yn y warchodfa ar gyfer ysgolion Casnewydd, a gall ysgolion a grwpiau eraill ymweld yn annibynnol, ar ôl trefnu ymlaen llawn gyda’r Cyngor.
Cofiwch barchu defnyddwyr eraill y warchodfa yn ystod eich ymweliad.
Diogelwch
Yn aml mae’r llwybrau’n anwastad ac yn fwdlyd, felly cymerwch ofal a gwisgwch esgidiau addas.
Mae llwybrau cerdded a llwybrau ceffyl ar hyd a lled y warchodfa; cofiwch barchu defnyddwyr eraill wrth gerdded neu farchogaeth ar y safle.
Gall pyllau fod yn lleoedd peryglus a dylid cymryd gofal bob amser pan fyddwch yn agos iddynt, yn benodol gyda phlant.
Gall coetiroedd fod yn lleoedd peryglus mewn gwyntoedd cryfion oherwydd canghennau’n cwympo.