Cofrestrau Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Mae’r Rheoliadau Hawliau Tramwy Cyhoeddus (Cofrestrau) (Cymru) 2006 yn rhoi rheidrwydd ar y cyngor gynnal a chadw tri chofrestr gyhoeddus yn ymwneud â hawliau tramwy cyhoeddus (HTC) yn yr ardal, maent fel a ganlyn:
- Adran 31A: Cofrestr o bethau y mae tirfeddianwyr wedi’u cyflwyno
Mae Cofrestr Adran 31A (pdf) yn cynnwys gwybodaeth ar fapiau a datganiadau a gyflwynwyd, ac ymwadiadau, gan dirfeddianwyr mewn perthynas â hawliau tramwy cyhoeddus ar eu tir.
Mae'r mapiau, y datganiadau a’r ymwadiadau hyn yn galluogi tirfeddianwyr i gydnabod yn ffurfiol yr hawliau tramwy cyhoeddus ar eu tir, gan greu rhagdybiaeth na fydd unrhyw lwybrau pellach yn cael eu dynodi dros eu tir.
- Adran 121B: Cofrestr o geisiadau i ddargyfeirio neu ddileu llwybrau cyhoeddus
Mae’r Gofrestr ceisiadau Adran 121B(pdf) yn dangos ceisiadau sydd wedi eu gwneud i’r cyngor i newid ein map diffiniol neu ddatganiad (y cyfeirir ato fel cofrestr adran 53B) – y dogfennau hyn yw ein cofnod swyddogol o hawliau tramwy cyhoeddus.
- Adran 53B: Cofrestr o geisiadau i ddiwygio’r adran Map Diffiniol a’r Datganiad
Mae Cofrestr ceisiadau Adran 53 (pdf) yn rhestru ceisiadau a gyflwynwyd i'r cyngor gan berchnogion, prydleswyr neu feddianwyr unrhyw dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, coedwigaeth neu i fridio neu gadw ceffylau, i ganslo llwybrau cyhoeddus a gorchmynion dargyfeirio (y cyfeirir atynt fel cofrestr adran 121B).
Mae’r gofrestr a gyhoeddwyd yma’n cynnwys mathau ychwanegol o geisiadau, h.y. ceisiadau gan berchnogion tir neu feddianwyr nad ydynt yn dod o dan y diffiniad uchod, a chynigion a symbylwyd gan yr awdurdod priffyrdd ei hun.
TRA91579 27/9/2018