Saif Parc Tredegar ger Cardiff Road, yn agos i allanfa Cyffordd 28 yr M4.
Mae meysydd chwarae ac ystafelloedd newid ar gyfer clybiau chwaraeon lleol, man chwarae i blant, cwrs pitsio a phytio, cyrtiau tennis a pharc sglefrio.
Oriau Agor
Mae Parc Tredegar yn agor am 6am.
Oriau Agor Parciau (pdf)
Lawrlwythwch amseroedd agor a chau toiledau'r parc (pdf)
Os digwydd i’ch car gael ei gloi y tu mewn i’r maes parcio ar ôl yr oriau agor, cysylltwch â Cyngor Dinas Casnewydd, (01633) 656656.
Prisiau maes parcio
- hyd at ddwy awr = £1.00
- tair i bum awr = £3.00
- dros bum awr = £5.00
Mae cyfleusterau ym Mharc Tredegar yn cynnwys:
- Le parcio i fwy na 100 o geir
- Maes chwarae sy’n addas i amrywiaeth o grwpiau oedran
- Golff gwyllt naw twll
- Trac cerdded/rhedeg un filltir
- Parc sglefrio a thrac beicio
- Cyrtiau tennis
- Caeau pêl-droed
- Caeau rygbi
- Wicedi criced
- Lle cawod a newid ar gyfer 6 thîm a dyfarnwyr
- Toiledau cyhoeddus gyda mynediad i bobl anabl
Gwiriwch argaeledd y meysydd chwarae drwy ffonio (01633) 656656
Parc Sglefrio Casnewydd
Mae parc sglefrio Casnewydd ym Mharc Tredegar a chafodd ei ddylunio a’i adeiladu gan Acrete Skateparks gan weithio gyda phobl ifanc a helpodd i ddewis rhai o’r nodweddion, gan gynnwys darn powlen, darn stryd, ‘peanut bowl’ a naid i feiciau.
Rhieni
- Mae’r parc sglefrio’n denu niferoedd uchel o ddefnyddwyr a dylid goruchwylio plant iau.
- Mae cyfnodau tawelach yn y bore yn ystod yr wythnos a fydd o bosibl yn fwy addas i blant iau.
Argymhellir bod plant 5-8 oed yn aros yn narn stryd y parc, wedi’u goruchwylio gan oedolion.
Mae’r ardal hon yn addas i ddefnyddwyr sgwteri, sglefrfyrddwyr a reidwyr BMX.
Caiff sglefrwyr cymwys 9 oed a hŷn ddefnyddio’r bowlen fach, y brif bowlen a’r ardal feicio.
Dylai reidwyr BNX sylwi na chaniateir unrhyw begiau mewn unrhyw un o’r ardaloedd hyn.
Mae’r ‘peanut bowl’ (pwll) yn addas i arbenigwyr yn unig.
Cyswllt
Parc Tredegar, Ffordd Caerdydd, Casnewydd
Cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd
Gweler y map o leoliad y parc sglefrio
Bydd cyfranogwyr yn defnyddio’r parc sglefrio ar eu menter eu hunain