Agorodd Parc Belle Vue ym 1894 ac mae iddo nodweddion sy’n nodweddiadol o barc cyhoeddus Fictoraidd gan gynnwys tai gwydr, pafiliwn, llwyfan band a gerddi cerrig.
Mae Parc Belle Vue wedi bod yn ddeiliad Baner Werdd ers 11 mlynedd ac wedi derbyn Statws Treftadaeth gan CADW.
Gellir mynd i mewn i’r parc o Ffordd Caerdydd, Belle Vue Lane a Waterloo Road.
Dyma lle mae Parc Belle Vue
Diolch i broject adnewyddu Parc Belle Vue cafodd adeiladau’r parc eu hadnewyddu gan ail-greu’r cynllun planhigion gwreiddiol. Daeth y project i ben yn 2003.
Gwyliwch y ffilm fer hon ar YouTube i gael mwy o wybodaeth am adnewyddu parc Belle Vue
Read more about the history of the park.
Oriau Agor
Mae Parc Belle Vue yn agor am 6am.
Oriau Agor Parciau (pdf)
Os digwydd i’ch car gael ei gloi y tu mewn i’r maes parcio ar ôl yr oriau agor, cysylltwch â Cyngor Dinas Casnewydd, (01633) 656656.
Ystafelloedd Te
Mwynhewch frathiad a llymaid yn ystafelloedd te pafiliwn Parc Belle Vue wrth i chi ymlacio a mwynhau’r olygfa.
Mae’r ystafelloedd te yn cael eu rheoli gan Cotyledon ac fe ellir cysylltu â nhw drwy e-bost ar jan@bellevuetearoom.uk
Parcio
Codir y taliadau canlynol rhwng 6am a 4pm bob dydd:
- hyd at ddwy awr = £1.00
- hyd at bum awr = £3.00
- dros bum awr = £5.00
Trafnidiaeth gyhoeddus
Mae bysus yn teithio’n aml ar hyd Ffordd Caerdydd ac yn stopio y tu allan i’r parc.
Ewch i wefan Trafnidiaeth Casnewydd i weld mwy o fanylion.
Priodasau a llogi ystafelloedd
Mae’r pafiliwn, y tŷ gwydr a’r llwyfan band ar eu newydd wedd yn lleoliadau hyfryd am briodasau, partïon, cyfarfodydd a digwyddiadau eraill.
Coed a llwyni prin
Mae Parc Belle Vue yn cynnwys nifer o sbesimenau prin.
Yn gynnar yn y gwanwyn, mae’r Magnolias Himalaiaidd yn cynhyrchu blodau pinc enfawr siâp gobled a gellir gweld canghennau’r Pren Suddas wedi’u gorchuddio mewn clystyrau o flodau lelog a phinc ym mis Mai.
Ym Mehefin a Gorffennaf, mae'r Goeden Diwlip yn cynhyrchu ei blodau oren unigryw siâp tiwlip.
Mae tymor yr hydref yn rhoi lliw mawreddog i’r dail gan gynnwys dail melyn clir y Ginko Bilboa a dail cochion hyfryd y Liquidambar.
Hanes Parc Belle Vue
Roedd tir y parc yn rhodd i'r dref gan yr Arglwydd Tredegar ym 1891 i roi parc cyhoeddus i bobl Casnewydd.
Enillodd Thomas Mawson (1861-1933) o Windermere gystadleuaeth agored i ddylunio ac adeiladu’r parc. Aeth ati i ddylunio nifer o erddi yn Cumbria, gan gynnwys Holker hall a Ryder Hall yn ogystal â Gardd Fotaneg Dyffryn yng Nghaerdydd.
Ym mis Tachwedd 1982, perfformiodd yr Arglwydd Tredegar y seremoni o dorri’r darn cyntaf o dir; dechreuodd y gwaith o adeiladu’r parc ar 8 Medi 1894. Cost derfynol y Park yn ôl y cofnodion oedd £19,500.
Ychwanegwyd nodweddion ychwanegol gan gynnwys Cylch yr Orsedd ym 1896 ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd ym mharc Belle Vue ym 1897.
Agorwyd y lawntiau bowlio ym 1904 ac ychwanegwyd tŷ te ym 1910.
Ym 1924, daeth tŷ a thiroedd Belle Vue House dan berchnogaeth y Cyngor a daeth yr 11 erw ychwanegol o dir yn rhan o’r parc, sydd bellach wedi tyfu i 26 erw.
Cyfeillion Parciau Addurnol
Sefydlwyd Cyfeillion Parciau Addurnol Casnewydd yn 2006 i weithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd i reoli parciau Belle Vue a Beechwood.
Cysylltu
Cyngor Dinas Casnewydd, Canolfan Ddinesig, Casnewydd, NP20 4UR
Ffôn: (01633) 656656
E-bost: info@newport.gov.uk
TRA116866 06/03/2020