Dolydd Great Traston
Ychydig y tu allan i Dre’r Onnen yng Nghasnewydd, mae Dolydd Great Traston yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a gafodd ei greu mewn partneriaeth rhwng cwmni byd-eang, Cyngor Dinas Casnewydd ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent.
Mae mynediad trwy’r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus gyda pharcio cyfyngedig ger Nash Road.
Rheolir y warchodfa gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent. Mae ganddi daith gerdded gylchol dda a hefyd mae wedi’i chysylltu gan rwydwaith y llwybrau troed i Warchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd i’r de lle mae digon o barcio ar gael.
Darllenwch am Great Traston ar wefan Bywyd Gwyllt Gwent.