Y Pedwar Loc ar Ddeg, Cwm Lane, Tŷ Du. NP10 9GN. AO Cyf Grid: ST 279 886
Mae Canolfan Camlas y Pedwar Loc ar Ddeg ym mhen rhes unigryw o bedwar loc ar ddeg, Rhes Lociau Cefn, a gydnabyddir fel un o ryfeddodau peirianegol y Chwyldro Diwydiannol, gan godi i 160 troedfedd o fewn hanner milltir yn unig.
Mae’n ganolfan ragorol ar gyfer teithiau cerdded ar hyd llwybr tynnu Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog, ac mae maes parcio mawr yn y canol, ynghyd â chaffi a thoiledau.
Bywyd Gwyllt
Mae’r gamlas yn goridor pwysig ar gyfer bywyd gwyllt, sy’n ymlwybro trwy Gasnewydd.
Mae llawer o rywogaethau adar yn ei defnyddio, megis cotieir, ieir dŵr, elyrch, crehyrod a siglenni llwyd ac mae’n bosibl y byddwch yn ddigon ffodus i gael cipolwg fflach ar las y dorlan.
Mae dyfrgwn cyfrinachgar yn defnyddio’r dŵr i hela am bysgod ac mae ystlumod yn defnyddio’r gamlas er mwyn llywio ac fel maes hela yn ystod y nos.
Mae amffibiaid ac ymlusgiaid yn gwneud y gorau o’r gamlas a’r llystyfiant ar y glannau - byddwch yn gweld grifft yn y dŵr yn gynnar yn y gwanwyn.
Yn yr hydref a’r gaeaf, bydd brogaod a madfallod y dŵr ar y tir, felly cadwch olwg amdanynt o dan foncyffion a llystyfiant.
Hefyd gwelwyd nadredd y glaswellt yn y dŵr – mae’r ymlusgiaid hyn yn nofwyr medrus sy’n bwydo ar bysgod ac amffibiaid.
Mae toreth o gorsennau a brwyn a byddwch hefyd yn gweld yr alaw lleiaf yn arnofio ar y dŵr.
Mae’n debygol y byddwch hefyd yn gweld rhai rhywogaethau ymledol sydd, os cânt eu gadael heb eu rheoli, yn achosi problemau mawr ar gyfer bywyd gwyllt cynhenid y gamlas.
Gall rhedyn dail parot a rhedyn y dŵr ymledu’n gyflym iawn, gan fygu’r gamlas, rhwystro’r golau a lleihau swm yr ocsigen yn y dŵr, gan ladd anifeiliaid di-asgwrn cefn a physgod o ganlyniad.
Hanes
Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yw’r enw modern ar ddwy gamlas o’r 18 fed ganrif – Camlas Sir Fynwy a Chamlas Brycheiniog a’r Fenni.
Roeddent wedi’u hagor yn llwyr erbyn 1799, wedi’u hadeiladu i gludo glo a haearn i Gasnewydd, a arweiniodd at ehangu’r dref a’r glanfeydd ar lannau’r afon yn gyflym.
Cafodd y gamlas lawer o flynyddoedd buddiol tan ddyfodiad y rheilffyrdd, ond o’r 1850au dechreuwyd cau darnau o’r gamlas.
Cafodd rhai darnau eu trawsnewid yn rheilffyrdd, gadawyd rhai fel bwydwyr dŵr a thynged rhai eraill oedd cael eu troi’n ffyrdd.
Gadawyd darn olaf y gamlas ym 1962. Fodd bynnag, o fewn ychydig o flynyddoedd, roedd gwaith adfer wedi dechrau ac mae’n parhau hyd heddiw.
Ymweld
Mae'r ganolfan ymwelwyr a'r caffi ar agor o 10.00 yb hyd at 4.30 yp, trwy'r flwyddyn.
Mae mynediad i gerddwyr trwy'r amser- noder y bod y maes parcio ar agor o 6.30yb hyd at 4.45yp.
Mae’r rhan fwyaf o’r llwybr tynnu yn wastad ond mae rhai darnau heb arwyneb a cheir llethrau ar i fyny ac ar i lawr o gwmpas y lociau.
Mae mynediad da iawn yn y ganolfan ar gyfer cadeiriau olwynion, ond mae addasrwydd y llwybrau troed yn gyfyngedig.
Mae gwasanaeth Bysiau Casnewydd R1 a 56 yn stopio ar High Cross Road wrth safle bysiau Cwm Lane, sy’n daith gerdded fyr o ganolfan y gamlas.
Addysg
Cynhelir Canolfan Camlas y Pedwar Loc ar Ddeg gan yr Ymddiriedolaeth Camlesi, sy’n gallu cyflwyno sesiynau addysgol i grwpiau ysgol sy’n ymweld, trwy drefniant ymlaen llaw.
Diogelwch
Mae’r gamlas yn ddŵr agored, yn ddwfn mewn sawl man, ac mae disgyniadau serth iawn i lawr i’r lociau.
Gall y llwybr tynnu fod yn anwastad mewn mannau, felly byddwch yn ofalus a gwisgwch esgidiau priodol.
Cysylltu
Y Pedwar Loc ar Ddeg, Cwm Lane, Tŷ Du. NP10 9GN. AO Cyf Grid: ST 279 886
FFon |
+44(0)1633 894802 |
|
+44(0)1633 892167 |
Ebost: mail@fourteenlocks.co.uk
Gwefan: http://fourteenlocks.mbact.org.uk/