Coed Wen

Mae Coed Wen yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Coetiroedd Pen-hŵ, a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Gwarchodir yr ardal oherwydd ei choetir lled-naturiol ar fryniau calchfaen sy’n cynnal ystod eang o fywyd planhigion.

Coed Wen yw’r unig ran o’r warchodfa sydd ar agor i’r cyhoedd a cheir mynediad trwy’r llwybrau troed goddefol o Ben-hŵ a Pharc Seymour.

Darllenwch am Goed Wen ar wefan First Nature.