Rheoli gwair mewn ffordd sy'n dda i Wenyn
Fel Dinas sy'n Caru Gwenyn swyddogol, rydyn ni’n adolygu trefniadau rheoli porfa a thorri gwair Casnewydd. Yn addasu ein dulliau lle bo hynny'n bosibl er budd natur a phobl.
Bydd torri gwair yn dal i ddigwydd mewn rhai ardaloedd drwy gydol mis Mai er mwyn:
- Cynnal gwelededd ar gyfer defnyddwyr y ffordd
- Cadw arwyddion traffig a llinellau gweld yn glir
- Cynnal lleiniau a mynediad ar droedffyrdd a llwybrau beicio
- Cynnal parciau, meysydd chwaraeon, mynwentydd a mynediad at fannau chwarae a hamdden gwyrdd
Bydd amserlenni torri gwair rheolaidd ar draws y ddinas yn ail-ddechrau ym mis Mehefin. Byddwch yn ymwybodol bod yr amserlenni torri gwair rheolaidd ar amserlen o 4-6 wythnos, ac felly bydd rhai ardaloedd yn cael eu torri'n gynt nag eraill.

Nid Yw Natur Yn Daclus
Mae Nid yw Natur yn Daclus yn brosiect sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd pryfed peillio, y camau y gallwn oll eu cymryd i'w cefnogi, a sut y gall y rhain gael effaith gadarnhaol ar faterion pwysig eraill megis lleihau'r dirywiad mewn bywyd gwyllt arall a lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd. Cafodd y prosiect ei dreialu i ddechrau yn Nhrefynwy ac mae wedi'i ehangu'n araf ar draws pum Awdurdod Lleol Gwent Fwyaf.
Elfen allweddol sy'n rhan o waith Nid Yw Natur Yn Daclus fu newid y modd y mae Awdurdodau Lleol yn rheoli eu glaswelltir ar leiniau ymyl, mannau agored a pharciau i greu lle ar gyfer natur. Cawsom ein calonogi'n fawr gan gefnogaeth y cyhoedd i'r newidiadau rydym wedi'u gwneud i'n trefniadau torri gwair, ac ymddangosiad llawer mwy o flodau gwyllt yn ystod gwanwyn a haf 2021
Mae'r prosiect hwn yn rhan o gyfres o raglenni i'w cyflawni o dan Brosiect Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, a gefnogir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig ac a gaiff eu hariannu gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Llywodraeth Cymru.
Darganfyddwch fwy am y Grid Gwyrdd Gwent
Natur Wyllt - Mannau gwyrdd
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn edrych am adborth gan breswylwyr ar sut y caiff ardaloedd naturiol o fewn y ddinas eu rheoli, gyda mannau gwyrdd ar draws Casnewydd yn cael eu gadael i dyfu yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf er budd ecosystemau fel rhan o brosiect Natur Wyllt.
Mae pob un o’r pump awdurdod lleol yng Ngwent yn ymroddedig i reoli mwy o fannau gwyrdd ar gyfer natur fel rhan o brosiect Natur Wyllt, gan helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth a hinsawdd.
Mae’r cyngor eisiau sicrhau y canfyddir y cydbwysedd cywir rhwng natur a hamdden drwy glywed adborth preswylwyr ar ddull Natur Wyllt yn y mannau gwyrdd lleol. Drwy adael i ni wybod beth yw eich barn y newidiadau, gallwch ddangos cefnogaeth neu dynnu sylw at feysydd lle gallem wella.
Ewch i'r arolwg
Torri a chasglu
Gyda chymorth y Gronfa Twf Amgylcheddol, rydyn ni wedi prynu peiriannau i'n helpu i newid ein dulliau rheoli porfa.
Gan weithio gyda chymunedau, rydyn ni wedi sefydlu ardaloedd peilot fel y gallwn hyfforddi ein tîm a threialu dull newydd o reoli glaswellt i’n helpu i baratoi ar gyfer arferion gwaith cynaliadwy mwy llwyddiannus yn y dyfodol.
Ysgolion a grwpiau cymunedol
Rydyn ni’n gweithio gydag ysgolion a grwpiau gwirfoddolwyr cymunedol i gynnal gweithgareddau Caru Gwenyn.
Ysgol Gynradd Sant Gwynllyw
Helpwch wenyn yn eich gardd gefn
Gwyliwch Ffilm Bioamrywiaeth Caru Gwenyn Gardd Gefn Lucy i gael cyngor ynghylch sut i ddenu gwenyn i’ch gardd!
TRA123200 04/08/2020