Safleoedd gwarchodedig

O goetiroedd hynafol lled-naturiol Coed Wen a Phlas Machen i ddolydd Llanmartin a phorfeydd gwlyb a ffosydd draenio’r Gwastadeddau, mae gan Gasnewydd gyfoeth o gynefinoedd a bywyd gwyllt. 

Dynodiadau Rhyngwladol

Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA)

Mae Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn safleoedd dynodedig o dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd a Rhywogaethau’r CE.

Gyda’i gilydd mae Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchod Arbennig (gweler isod) yn ffurfio rhwydwaith o safleoedd o bwys Ewropeaidd a adwaenir fel Natura 2000. Caiff Ardaloedd Cadwraeth Arbennig eu gwarchod trwy’u dynodi’n SoDdGA (gweler isod).

Mae Aber Afon Hafren wedi’i ddynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig, a hefyd Afon Wysg.

Ardaloedd Gwarchod Arbennig (AGA)

Caiff AGA eu dynodi o dan Erthygl 4 Cyfarwyddeb y CE am Gadwraeth Adar Gwyllt 1979 (EC/79/409), a adwaenir yn gyffredin fel Cyfarwyddeb yr Adar Gwyllt.

Mae’r safleoedd hyn yn denu rhywogaethau mudol yn rheolaidd a/neu rywogaethau prin neu sydd mewn sefyllfa fregus.

Nodir AGA yng Nghymru gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, ar y cyd â Chydbwyllgor Cadwraeth Natur y DU, a chânt eu dynodi gan Brif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Aber Afon Hafren yn AGA ac mae hefyd wedi’i warchod trwy’i ddynodiad yn SoDdGA (gweler isod).

Safleoedd Ramsar

Caiff Safleoedd Ramsar eu dynodi o dan y Confensiwn ar Wlyptiroedd o Bwys Rhyngwladol, yn benodol fel Cynefin Adar Dŵr (Confensiwn Ramsar).

Mae Safleoedd Ramsar hefyd yn SoDdGA sy’n rhoi gwarchodaeth iddynt.

Yng Nghymru, cânt eu nodi gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, ar y cyd â Chydbwyllgor Cadwraeth Natur y DU, a chânt eu dynodi gan Brif Weinidog Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Aber Afon Hafren yn Safle Ramsar.

Dynodiadau Cenedlaethol

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

Dynodir y rhain o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Cânt eu diffinio fel enghreifftiau o’r safleoedd gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt, nodweddion daearyddol a thirffurfiau. Yng Nghymru, fe’u dynodir gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

Mae 11 SoDdGA sy’n cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd yng Nghasnewydd.

  • Afon Wysg (Wysg Isaf)
  • Aber Afon Hafren
  • Gwastadeddau Gwent sy’n chwe SoDdGA cyfagos ar wahân (4,500 hectar), sef
  • SoDdGA Tredelerch a Llanbedr Gwynllŵg (y rhan ddwyreiniol yn unig)
  • SoDdGA Llansanffraid Gwynllŵg
  • SoDdGA Trefonnen ac Allteuryn
  • SoDdGA Whitson
  • SoDdGA’r Redwig a Llandefenni (y cyfan ac eithrio’r rhan fwyaf de-ddwyrain)
  • SoDdGA Magwyr a Gwndi (mae hwn yn gyfagos i’r un olaf ond y tu allan i ffin CDC)
  • Coed Pen-hŵ
  • Coed Parc Seymour
  • Dolydd Langstone-Llanmartin
  • Coed Plas Machen

Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG)

Ardal o werth cadwraeth natur uchel yw hon, sy’n cael ei rheoli i roi cyfleoedd i gynnal ymchwil neu ddiogelu anifeiliaid a phlanhigion a nodweddion daearegol neu dopograffig sydd o ddiddordeb arbennig. Dynodir Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru o dan Adran 19 Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 neu Adran 35 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Mae gan bob GNG statws SoDdGA. Coed Pen-hŵ yw’r unig GNG yng Nghasnewydd.

Dynodiadau Lleol

Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SBCN)

Safleoedd sydd â bywyd gwyllt o bwys lleol yn hytrach na rhyngwladol neu genedlaethol yw'r rhain. Cyfeirir atynt yn aml fel ‘safleoedd ail haen’  neu ‘safleoedd bywyd gwyllt’. Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi nodi nifer o SBCN. Ceir rhagor o fanylion yn ‘Strategaeth Cadwraeth Natur Ddrafft Cyngor Dinas Casnewydd’.

Gwarchodfa Natur Leol (GNL)

Dynodir y rhain gan yr awdurdod lleol, ar y cyd â Chyngor Cefn Gwlad Cymru, o dan Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Mae Gwarchodfeydd Natur Lleol yn werthfawr am gadwraeth natur, bywyd gwyllt lleol a/neu ddiddordeb daearegol. Yn aml maent mewn ardaloedd poblog ac yn adnoddau gwych at ddibenion hamdden ac addysg. Mae un safle o’r fath wedi’i ddynodi yn Allt-yr-ynn ac mae eraill yn cael eu hystyried.

Gwarchodfeydd Natur Anstatudol

Nid oes unrhyw statws ffurfiol gan y safleoedd hyn yn y system gynllunio leol, er byddai unrhyw werth cadwraeth natur yn cael ei ystyried fel arfer gan yr awdurdod lleol wrth asesu unrhyw ddatblygiadau ar neu ger y safle a allai fod yn niweidiol. Fe’u dynodir gan amrywiaeth o asiantaethau statudol, sefydliadau gwirfoddol ac unigolion preifat, fel arfer ar dir y mae’r corff dan sylw yn berchen arno neu’n ei brydlesu.

Dyma rai enghreifftiau yng Nghasnewydd:

  • Gwarchodfa Coed Cadw yng Nghraig y Wenallt
  • Gwarchodfa Natur Ysgol Gyfun Caerllion, Coldbath Lane, Caerllion
  • Safleoedd CDC a reolir dan gytundeb trwy Ymddiriedolaeth Natur Gwent trwy ei changen yng Nghasnewydd, WING, sy’n cynnwys
  • Allt-yr-ynn (sydd hefyd yn Warchodfa Natur Leol)
  • Coed Ringland
  • Oaklands
  • Pwll Dyffryn
  • Coed y Porthdy

Gwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd

Sefydlwyd Gwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd i wneud yn iawn am golli cynefinoedd pan adeiladwyd y morglawdd ym Mae Caerdydd. Mae corsleoedd, glaswelltir gwlyb iseldir, morlynnoedd hallt a morfeydd heli wedi cael eu creu dros 438.6 hectar rhwng Aber-wysg ac Allteuryn. 

From the semi-natural ancient woodlands of Coed Wen and Plas Machen to the meadows at Llanmartin and the wet pastures and reen systems of the Levels, Newport has a wealth of habitats and wildlife.