Bioamrywiaeth mewn ysgolion

Mae mwy nag 80% o ysgolion Casnewydd yn rhan o’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth Ysgolion (CLG) ac yn derbyn cyngor a chymorth i ddatblygu tiroedd ysgol, gan greu ardaloedd ieir bach yr haf, plannu coed, gwrychoedd a pherllannau, sefydlu ystafelloedd dosbarth awyr agored a chreu rhandiroedd.

Eco-ysgolion

Gall y project Bioamrywiaeth mewn Ysgolion helpu ysgolion gyda’u rhaglen eco-ysgolion a’u mentrau Ysgolion Iach yn ogystal â’u helpu i ddatblygu amgylchedd awyr agored ysgogol i’r Cyfnod Sylfaen i blant 3-7 oed.

Mae ysgolion sy’n rhan o’r CLG yn cael cymorth i ddatblygu tiroedd a chael gwasanaethau amgylcheddol eraill.

Lawrlwythwch y Llyfryn am wasanaethau i ysgolion (pdf)

Adroddiad am y Project Bioamrywiaeth mewn Ysgolion

Lawrlwythwch adroddiad manwl am y  Y Prosiect Bioamrywiaeth mewn Ysgolion Casnewydd (pdf)sy’n rhoi manylion am sut dechreuodd y project, sut mae’n gweithio a rhai astudiaethau achos.

Gwarchodfa Natur Leol Allt–yr-ynn

Gyda chylchoedd boncyffion wedi’u gosod i’w defnyddio fel ystafell ddosbarth awyr agored ac oherwydd ei bod ar agor trwy’r dydd bob dydd, mae Gwarchodfa Natur Allt-yr-ynn yn lle gwych i’ch ysgol ymweld ag ef.

Mae croeso i ysgolion ddefnyddio’r warchodfa pryd bynnag y dymunant, ar eu pennau eu hunain – yr unig beth byddem yn ei ofyn yw i chi roi gwybod i ni am y dyddiadau fel y gallwn wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol neu drefnu gwaith wrth ystyried eich cynlluniau chi.

Hefyd gallwch drefnu i’ch dosbarth ymweld â’r warchodfa gyda’r Swyddog bioamrywiaeth mewn ysgolion ar gyfer sesiwn addysg amgylcheddol 2 awr gyda thywysydd.

Mae’r gwasanaeth hwn am ddim i’r ysgolion hynny sy’n rhan o’r CLG - cysylltwch â’r Swyddog Bioamrywiaeth mewn Ysgolion isod.

Ysgol goedwig

Dull addysg o Sgandinafia yw ysgol goedwig sy’n cael ei gyflwyno yn yr awyr agored mewn amgylchedd naturiol lle mae plant yn dysgu ac yn datblygu sgiliau ysgogiadol, emosiynol a chymdeithasol.

Mae’r rhoi cyfle i blant ddysgu sut i ymdopi â risgiau a defnyddio eu menter eu hunain, yn ogystal â chyfle i ddefnyddio offer a chynnau tanau.

Yn ddelfrydol, cynhelir ysgol goedwig mewn grwpiau bach ac yn rheolaidd.

Mae gan sawl ysgol yng Nghasnewydd Arweinydd Ysgol Goedwig (cymhwyster Lefel 3 Agored  Cymru) ac mae 2 swyddog o’r Cyngor hefyd yn Arweinwyr Ysgol Goedwig cwbl gymwysedig yn gallu cynnal rhaglenni ysgol goedwig rheolaidd neu sesiynau untro i ddangos sut i ddefnyddio offer neu dân ac mae’r rhain yn cynorthwyo arweinwyr ysgol lle bo angen.

Codir ffi o £150 y dydd fesul aelod o staff ar gyfer sesiynau ysgol goedwig.

Cyswllt

Swyddog Bioamrywiaeth mewn Ysgolion, Gwasanaethau Gwyrdd, Cyngor Dinas Casnewydd, Canolfan Ddinesig, Casnewydd NP20 4UR                                                                               

Ffôn: (01633) 656 656

E-bost: [email protected]