Cynllun gweithredu bioamrywiaeth

Biodiversity-countryside

Mae Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnwys rhestr o gynefinoedd a rhywogaethau arbennig yn yr ardal ac yn amlinellu sut rydym ni a’n partneriaid yn bwriadu eu diogelu a’u hatgyfnerthu.

Mae bioamrywiaeth yn fyr am ‘amrywiaeth biolegol’ ac yn cynnwys pob rhywogaeth ar y ddaear a’r cynefinoedd y maent yn byw ynddynt – coetiroedd, glaswelltiroedd, afonydd, tir amaeth neu drefi.

Yn ystod y 70 mlynedd diwethaf cafwyd gostyngiad yn nifer ac amrywiaeth y rhywogaethau, ac mae bioamrywiaeth dan fygythiad ledled y byd oherwydd gweithgareddau dynol, gan gynnwys at ddibenion datblygu, diwydiant a hamdden.

Os na chymerir camau gweithredu i atal y dirywiad hwn, bydd llawer o blanhigion ac anifeiliaid sy’n gyfarwydd i ni heddiw yn cael eu colli am byth.

Lawrlwythwch Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol Casnewydd (pdf)

Cyhoeddodd Partneriaeth Bioamrywiaeth y DU restr o rywogaethau a chynefinoedd y DU sydd â blaenoriaeth, a defnyddiwyd y rhestr hon at ddiben cyfeirio wrth nodi’r rhywogaethau a’r cynefinoedd pwysicaf yng Nghymru o dan  Adran 42 Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006.

Cyfeirir at y rhestr gyfunol o rywogaethau a chynefinoedd fel rhestr Adran 42 Cymru ac mae’n sail i system Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Leol Cymru.

Mae’r cynefinoedd blaenoriaeth hyn yn bwysig yng Nghasnewydd:

Coetir llydanddail, cymysg ac yw – coetiroedd ynn, coetir gwlyb, porfa goed a pharcdir, coetir collddail cymysg a pherllannau traddodiadol.

Dŵr croyw – afonydd, nentydd, pyllau, camlesi a llynnoedd.

Gwlyptiroedd – ffeniau iseldir, corsleoedd a chorsydd pori ar orlifdir arfordirol.

Tir amaeth – gwrychoedd ac ymylon caeau âr.

Glaswelltir a rhostir yr iseldir – dolydd yr iseldir; glaswelltir sur sych, calchaidd; glaswellt y gweunydd a phorfeydd cyrs; a rhostir yr iseldir.

Safleoedd tir llwyd a threfol – safleoedd tir llwyd, creigiau a sgri mewndirol, mannau gwyrdd agored trefol, gerddi a rhandiroedd, a mynwentydd.

Morol ac arfordirol  - clogwyni a llethrau morol, morfeydd heli a fflatiau llaid rhynglanwol

O bwys penodol yng Nghasnewydd y mae pathewod, ystlumod, dyfrgwn, llygod pengrwn y dŵr, ffyngau, gwyfynod letys a chardwenyn.

Partneriaeth Bioamrywiaeth Casnewydd 

Grŵp o ymarferwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr sy’n gweithio gyda’i gilydd i ofalu am ein bioamrywiaeth leol yw Partneriaeth Bioamrywiaeth Casnewydd.  

Mae’r bartneriaeth yn ddull o addasu, gwella a chyflwyno’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol ac mae wedi’i ffurfio o wahanol sefydliadau ac unigolion sydd oll yn gweithio neu’n byw yng Nghasnewydd a’r cyffiniau ac sydd â diddordeb mewn gofalu am yr ecosystemau naturiol o’n hamgylch.

Mae’r aelodau’n cynnwys: 

Cyngor Dinas Casnewydd

Cyfoeth Naturiol Cymru

Ymddiriedolaeth Natur Gwent

Cymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar 

Butterfly Conservation

Grŵp Ffyngau Gwent

Amphibian and Reptile Conservation

Cymdeithas Adaryddol Gwent

Cartrefi Dinas Casnewydd

Charter Housing

SEWBReC (Canolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru)

Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru

Bumblebee Conservation Trust

Os hoffech chi neu eich sefydliad ymaelodi â’r Bartneriaeth Bioamrywiaeth, e-bostiwch y Tîm Bioamrywiaeth isod.   

Cyswllt

Gwasanaethau Gwyrdd yng Nghyngor Dinas Casnewydd

Ebost: [email protected]