Mynediad i fynwentydd dros y Nadolig
Mynwentydd Sant Gwynllwg ac Eglwys y Drindod:
Mynediad i gerddwyr saith diwrnod yr wythnos
Mynediad i gerbydau ar gael:
Dydd Gwener 24 Rhagfyr – ar ôl oriau gwaith
Dydd Sadwrn 25 Rhagfyr i Dydd Mawrth 28 Rhagfyr
Dydd Sadwrn 1 Ionawr i Dydd Llun 3 Ionawr
Mynediad i gerbydau ddim ar gael:
Dydd Mercher 29 Rhagfyr i Dydd Gwener 31 Rhagfyr
Mynwent Llanfarthin:
Mynediad i gerddwyr saith diwrnod yr wythnos (nid yw’r gatiau i gerddwyr wedi'u cloi).
Mynwent Caerllion:
Gatiau mynediad i gerddwyr a cherbydau ar agor saith diwrnod yr wythnos.
Casgliadau gwastraff ac ailgylchu
Gan fod Dydd Nadolig a Dydd Calan ill dau ar Ddydd Sadwrn eleni, ni fydd unrhyw un o ddiwrnodau casglu'r Cyngor na Wastesavers yn newid. Gwiriwch eich diwrnod casglu.
Ailgylchu adeg y Nadolig
Mae'r Nadolig bob amser yn cynhyrchu llawer o wastraff y gellir ei ailgylchu - o ddeunydd pacio cardbord a phapur lapio i fwyd sydd dros ben. Dyma rai awgrymiadau ar sut i ailgylchu'r rhain gartref.
- Defnyddiwch y prawf creinsio
Ddim yn siŵr a ellir ailgylchu darn o bapur? Ceisiwch ei greinsio yn eich llaw. Os nad yw'n neidio’n ôl, yna gellir ei ailgylchu. Mae'n brawf da i'w ddefnyddio gyda phapur lapio. Ac os ydych chi'n ailgylchu cardiau pen-blwydd neu’r Nadolig, tynnwch unrhyw ddarnau â ‘gliter’ yn gyntaf.
Torrwch eich cardbord fel ei fod yn ffitio yn y blwch a/neu fag gwyrdd. Mae Wastesavers hefyd yn derbyn swp bychan, wedi’i blygu, wrth ochr y blwch os yw’r un maint â'r blwch gwyrdd. Gellir mynd â darnau mwy i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGC) i'w hailgylchu.
- Caru Bwyd, Casáu Gwastraff
Oeddech chi’n gwybod bod croen un fanana yn creu digon o ynni i bweru dau ffôn clyfar? Wrth glirio'r llestri ar ôl bwyta, rhowch y gwastraff bwyd yn y cadi ailgylchu yn lle ei roi yn y bin.
- Ailgylchwch eitemau trydanol diangen
Os nad ydynt wedi torri, beth am roi bywyd newydd iddynt er mwyn i rywun arall eu mwynhau? Gallwch fynd â nhw i Siop y Domen yn CAGC, neu fynd i siop newydd Wastesavers ar Chepstow Road, y Maendy.
Gellir mynd ag unrhyw eitemau bach sydd wedi torri i CAGC i'w hailgylchu neu eu rhoi yn y blwch glas i'w casglu. I gael mwy o wybodaeth am sut i ailgylchu eitemau trydanol diangen, ewch i www.recycleyourelectricals.org.uk
Coed Nadolig go iawn
Gellir ailgylchu coed Nadolig go iawn yn CAGC – trefnwch slot yno.
Fel arall, gallwch dorri eich coeden a'i storio yn eich bin gwastraff gardd nes bod y casgliadau'n ailddechrau yn y gwanwyn.