Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw

St Woolos Cathedral 2017

Eglwys Gadeiriol Casnewydd: Gwynllyw, Brenin a Chyffeswr. Mae Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw wedi bod yn fan addoli ers dechrau'r 6ed ganrif.

Yn ôl y chwedl, cafodd y tywysog-filwr Gwynllyw dröedigaeth at Gristnogaeth pan ddywedwyd wrtho mewn breuddwyd i chwilio am ych gwyn â smotyn du ar ei dalcen a, phan fyddai'n ei ddarganfod, i adeiladu eglwys mewn edifeirwch.

Mae'n weddol sicr bod eglwys Gwynllyw, a sefydlwyd ar Stow Hill, wedi'i gwneud o laid a bangorwaith ac, felly, wedi'i cholli.  

Mae'r eglwys fodern yn dyddio'n ôl i gyfnod y Normaniaid, gan gynnwys y fynedfa fwaog a'r corff, a adeiladwyd ym 1140-1160.

Mae'r adeilad presennol yn cynnwys eglwys Normanaidd o'r 12fed ganrif wedi'i hamgáu o fewn strwythur canoloesol diweddarach. Cafodd ei adfer yn ystod oes Fictoria ac adeiladwyd estyniad ar y pen dwyreiniol yn fwy diweddar.  

Ym 1921, crëwyd esgobaeth Mynwy a dynodwyd yr eglwys yn gadeirlan, a chafodd y pen dwyreiniol ei ymestyn ym 1960.  

Ewch i www.newportcathedral.org.uk am ragor o wybodaeth.  

Côr y Gadeirlan

Mae gan Eglwys Gadeiriol Casnewydd draddodiad corawl cryf, gyda phedwar neu bum gwasanaeth corawl yn cael eu cynnal bob wythnos yn ystod y tymor.

Mae'r côr yn canu amrywiaeth eang o gerddoriaeth, o'r 16eg i'r 21ain ganrif, gan gynnwys darnau a gyfansoddwyd gan gyfansoddwyr cerddoriaeth eglwysig cyfoes a cherddorion lleol dawnus.

Mae côr hyfforddi o fechgyn iau yno hefyd.

Mae côr y gadeirlan yn canu mewn lleoliadau sy'n cynnwys eglwysi cadeiriol yng Nghaerloyw, Caer-wynt a Chichester, yn ogystal ag Eglwys Gadeiriol Efrog, ac mae ganddo gysylltiad agos ag Abaty Westminster. 

Lleoliad 

Eglwys Gadeiriol Casnewydd: Gwynllyw, Brenin a Chyffeswr, Stow Hill, Casnewydd NP20 4EA

Ffôn: 07933627594

E-bost: enquiries@newportcathedral.org.uk

Ar agor bob dydd

Parcio gerllaw

Mynedfa i bobl anabl