Pistyll Cymdeithas Ddirwest Menywod Prydain

Wedi'i chreu gan Royal Doulton ym 1913, mae'r ffynnon yn 3m o uchder, wedi'i hadeiladu mewn teracota gyda gorffeniad ceramig gwydrog, ac mae wedi'i gosod y tu allan i Eglwys Gadeiriol Casnewydd.
Cofeb y Llynges Fasnachol, Mariners Green

Teyrnged i ddynion a menywod Casnewydd a fu farw mewn brwydrau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ym 1989, rhoddodd Cyngor Bwrdeistref Casnewydd gomisiwn i Sebastien Boyesen a dadorchuddiwyd y gofeb saith metr o uchder ym mis Ebrill 1991.
Murluniau'r Ganolfan Ddinesig

Peintiwyd y rhain gan Hans Feibusch, y peintiwr a'r cerfluniwr o'r Almaen. Mae'r gyfres o 12 murlun yn addurno neuadd ganolog Canolfan Ddinesig Casnewydd ac yn darlunio hanes Casnewydd. Fe'u comisiynwyd gan Gorfforaeth Casnewydd ym 1960 ac fe'u peintiwyd rhwng 1961 a 1964.
'This Little Piggy'

Yn dathlu dros 700 mlynedd o farchnadoedd yng Nghasnewydd, dyma ddarn efydd maint llawn o fochyn Gloucester Old Spot, gyda basgedi o ffrwythau a llysiau.
'Stand and Stare'

Crëwyd y cerflun hwn gan Paul Kincaid ac mae'n coffáu bardd 'Supertramp' Casnewydd, W.H.Davies, y mae ei gerdd 'Leisure' yn cynnwys y llinellau enwog, 'What is this life if, full of care, we have no time to stand and stare'
'The Bell Carrier'

Cafodd y cerflun hwn, sy'n cael ei alw hefyd yn 'Weledigaeth St.Gwynllyw', ei ysbrydoli gan chwedl tröedigaeth Gwynllyw i Gristnogaeth. Fe'i crëwyd gan Sebastian Boyesen ac fe'i dadorchuddiwyd ym 1996.
Cerflun y Siartwyr

Yn Sgwâr Westgate, mae'r cerflun yn coffáu gwrthryfel y Siartwyr ym 1839, pan laddwyd ugain o Siartwyr. Fe'i crëwyd gan Christopher Kelly ym 1991.
Yr Hen Furlun Gwyrdd

Mae'r Hen Furlun Gwyrdd yn darlunio Cwmni Rheilffordd a Chamlas Sir Fynwy a rôl allweddol y gamlas a'r rheilffordd yn nhwf a ffyniant cyflym Casnewydd yn ystod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Syr Charles Morgan - 1760-1846

Roedd Syr Charles Morgan yn Aelod Seneddol ac yn dirfeddiannwr cyfoethog yng Nghasnewydd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gosodwyd y cerflun hwn gan J.E.Thomas ar y Stryd Fawr ym 1850 yn wreiddiol, ond fe'i symudwyd oddi yno 10 mlynedd yn ddiweddarach. Ym 1992, cafodd ei adfer i safle amlwg ar Bridge Street.
Y Don Ddur

Mae'r cerflun arobryn hwn, a grëwyd gan Peter Fink ym 1991, yn sefyll mewn lleoliad amlwg ar lan yr afon yng Nghasnewydd. Mae'r cerflun 40 troedfedd yn cynrychioli'r masnachau dur a môr sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn natblygiad Casnewydd.