Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd, Gwlyptiroedd Casnewydd yr RSPB, Trefonnen, NP18 2BZ. Cyfeirnod Grid OS: ST 334 834
Mae Gwlyptiroedd Casnewydd yn Warchodfa Natur Genedlaethol gyda sawl erw o welyau cyrs a gwlyptiroedd, a llwybrau hwylus yn eu croesi.
Mae amrywiaeth eang o rywogaethau adar yn defnyddio'r gwelyau cyrs a'r fflatiau llaid i lochesu, nythu a dod o hyd i fwyd.
Mae toiledau, caffi a siop yn y ganolfan ymwelwyr.
Cyfoeth Naturiol Cymru ynghyd â'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) a Chyngor Dinas Casnewydd sy'n rhedeg y warchodfa.
Beth i'w weld
Mae Gwlyptiroedd Casnewydd yn fwyaf enwog am eu hamrywiaeth o adar gwlyptir, o'r titw barfog â'i farciau prydferth yn clwydo ar y cyrs, i'r crëyr bach tlws yn pysgota yn y pyllau.
Yn yr hydref, mae eurbincod i'w gweld yn bwydo ar ben hadau cribau'r pannwr ac mae clwydo'r drudwy yn ystod yr hydref a'r gaeaf yn olygfa ysblennydd o fywyd gwyllt gyda'r nos.
Wrth yr aber, gallwch weld pa adar sy'n defnyddio'r fflatiau llaid helaeth - chwiliwch am bibyddion y mawn, pibyddion coesgoch neu biod môr yn procio'r llaid.
Nid cartref i adar yn unig yw'r gwlyptiroedd fodd bynnag, felly cadwch lygad allan am gacwn, gweision y neidr, glöynnod byw a gwyfynod yn ystod misoedd yr haf – efallai gwelwch chi gardwenynen feinlais brin Casnewydd?
Gellir gweld nadroedd y gwair yn torheulo wrth ymylon llwybrau neu'n nofio ymhlith y cyrs.
Mae'r warchodfa hefyd yn gartref i famaliaid fel moch daear, gwahaddod, llygod y coed a dyfrgwn.
O ran planhigion, mae'r warchodfa'n gartref hefyd i sawl rhywogaeth o degeirian, gan gynnwys tegeirian y wenynen drawiadol.
Hanes
Agorwyd y warchodfa hon wrth aber afon Wysg yn 2000 i wneud iawn am y fflatiau llaid helaeth a gollwyd yn sgil cwblhau morglawdd Bae Caerdydd.
Mae'n ymestyn o Goldcliff i Aber-Wysg ac roedd unwaith yn dir diffaith, yn orchudd o ludw, ar gyfer gorsaf bŵer glo gyfagos Aber-Wysg.
Mae'r warchodfa'n ymestyn dros 4.38 km sgwâr (438 hectar) ac mae'n cynnig amrywiaeth o gynefinoedd, gan gynnwys gwelyau cyrs, morfa heli, lagwnau heli a glaswelltiroedd gwlyb tir isel.
Yn 2008, fe'i henwyd yn Warchodfa Natur Genedlaethol.
Ymweld
Mae'r warchodfa ar agor bob dydd a gallwch ymweld am ddim. Mae'r maes parcio ar agor o 8.30am i 5.30pm ac mae'r ganolfan ymwelwyr ar agor o 9am i 5pm.
Mae gwasanaeth 63 Bws Casnewydd i Whitson yn aros ym maes parcio'r warchodfa.
Mae llwybrau cerdded yn croesi'r warchodfa ac mae llwybr beicio ar gael o Aber-Wysg.
O'r maes parcio, mae 3 llwybr wedi'u marcio, yn amrywio o 2.74km (1.7 milltir) i 4.36km (2.7 milltir).
Mae bron pob un o'r llwybrau o gwmpas y gwelyau cyrs yn addas i gadeiriau olwyn ac mae meinciau bob rhyw 100 metr.
Mae'r llwybrau'n wastad, gyda rhai llethrau graddol ac esgynfa igam-ogam i ddringo'r pum metr i lefelau'r gwelyau cyrs uwch.
Mae rhai rhodfeydd arnofiol yn addas i gadeiriau olwyn, gyda gofal.
Gall tri sgwter symudedd a dwy gadair olwyn gael eu llogi am ddim, o ganolfan ymwelwyr yr RSPB. Rydym yn argymell bwcio'r rhain - ffoniwch (01633) 636363.
Caniateir cŵn mewn rhannau penodol o'r warchodfa yn unig a rhaid eu cadw ar dennyn bob amser. Gellir cael map o'r ganolfan ymwelwyr.
Mae Llwybr Arfordir Cymru'n croesi'r warchodfa.
Digwyddiadau
Cynhelir digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn. Gweler gwefan yr RSPB neu cysylltwch â'r ganolfan ymwelwyr ar (01633) 636363 am fanylion.
Addysg
Mae gan yr RSPB raglen addysg, sy'n cael ei rhedeg gan athrawon maes, ar gyfer ysgolion a grwpiau ieuenctid sy'n ymweld, gyda sesiynau ar amrywiaeth o feysydd y cwricwlwm.
Mae'n rhaid trefnu'r ymweliadau hyn ymlaen llaw. Cysylltwch â'r tîm addysg ar (01633) 636363.
Diogelwch
Mae ardaloedd o ddŵr dwfn ar hyd a lled y warchodfa, felly cadwch at y llwybrau a'r llwybrau bordiau.
Cyfarwyddiadau
Mae maes parcio'r warchodfa ar West Nash Road, rhwng pentref Trefonnen (Nash) a Gorsaf Bŵer Aber-Wysg.
O gyffordd 24 neu 28 yr M4, dilynwch yr A48 (y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol) i'r ardal ddiwydiannol ddeheuol, yna dilynwch arwyddion yr hwyaden frown o gerllaw Parc Adwerthu Casnewydd i'r Warchodfa.
Mae bysys yn gadael y brif orsaf fysys ar Kingsway yng nghanol y ddinas, (gwasanaeth rhif 63 o stand 29). Gweler Cludiant Casnewydd am amserlen.
Gwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd
West Nash Road
Casnewydd
NP18 2BZ
Swyddog Allymestyn Cymunedol RSPB Cymru
Ffôn: (01633) 636350
Gwefan:
Gwefan yr RSPB
Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent
Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent