Canolfan y Pedwar Loc ar Ddeg, Cwm Lane, Tŷ-du NP10 9GN. Cyfeirnod Grid OS: ST 279 886
Mae Canolfan Camlas y Pedwar Loc ar Ddeg wedi'i lleoli ar frig cyfres unigryw o 14 loc, sef Lociau Cefn, sy'n un o ryfeddodau peirianegol cydnabyddedig y Chwyldro Diwydiannol, yn esgyn 160 troedfedd o fewn hanner milltir yn unig.
Mae'n cynnig canolbwynt rhagorol ar gyfer mynd am dro ar hyd llwybr camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ac mae maes parcio mawr wrth ymyl y ganolfan, gyda chaffi a thoiledau.
Mae pwynt gwybodaeth cyfrifiadurol yn caniatáu i ymwelwyr brofi taith 'rithwir' ar hyd y gamlas, gan ddysgu sut mae loc camlas yn gweithio - a hyd yn oed rhoi cynnig ar agor loc - heb adael y ganolfan.
Mae'r pwynt gwybodaeth hefyd yn cynnwys manylion rhai o'r bobl a arferai weithio ar y gamlas ac mae perthnasau cyn-weithwyr y gamlas yn cael eu hannog i gyfrannu unrhyw wybodaeth sydd ganddynt, a allai helpu i ychwanegu at yr hyn rydym eisoes yn ei wybod am fywyd gweithwyr y gamlas.
Mae'r Ganolfan Gamlas a Threftadaeth yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Camlesi Sir Fynwy, Brycheiniog a'r Fenni.
Ewch i wefan y Pedwar Loc ar Ddeg am ragor o wybodaeth.
Bywyd gwyllt
Mae'r gamlas yn goridor pwysig i fywyd gwyllt, yn ymlwybro trwy Gasnewydd.
Mae llawer o rywogaethau adar yn ei defnyddio, fel cotieir, ieir bach y dŵr, elyrch, crehyrod a siglennod llwyd, a gallech fod yn ddigon ffodus i gael cip ar las y dorlan.
Mae dyfrgwn celgar yn defnyddio'r dŵr i hela pysgod ac mae ystlumod yn defnyddio'r gamlas i fordwyo ac fel man hela yn ystod y nos.
Mae amffibiaid ac ymlusgiaid yn gwneud y mwyaf o lystyfiant y gamlas a'r glannau – sylwch ar grifft broga yn y dŵr ddechrau'r gwanwyn.
Yn ystod yr hydref a'r gaeaf, bydd brogaod a madfallod dŵr ar y tir, felly cadwch lygad amdanynt o dan foncyffion a llystyfiant.
Mae nadroedd llwyd wedi'u gweld yn y dŵr hefyd - mae'r reptiliaid hyn yn nofwyr gwych, yn bwydo ar bysgod ac amffibiaid.
Mae cyrs a brwyn yn gyffredin a byddwch hefyd yn sylwi ar yr alaw lleiaf yn arnofio ar y dŵr.
Mae'n debyg y gwelwch chi rai rhywogaethau ymledol hefyd ac mae'r rhain yn achosi problemau enfawr i fywyd gwyllt brodorol y gamlas os na fyddant yn cael eu rheoli.
Gall pluen parot a rhedyn y dŵr ledaenu'n gyflym, gan fygu'r gamlas, atal golau a disbyddu cyflenwadau ocsigen, sy'n lladd anifeiliaid di-asgwrn-cefn a physgod yn y broses.
Hanes
Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yw'r enw modern ar ddwy gamlas o'r 18fed ganrif - Camlas Sir Fynwy a Chamlas Brycheiniog a'r Fenni.
Fe'u hadeiladwyd i gludo glo a haearn i Gasnewydd, gan agor yn llawn erbyn 1799, a thyfodd y dref a'r ceiau'n gyflym o ganlyniad.
Fe wnaeth y gamlas fwynhau sawl blwyddyn broffidiol hyd at ddyfodiad y rheilffyrdd ac, o'r 1850au ymlaen, dechreuodd rhai rhannau o'r gamlas gau.
Cafodd rhai rhannau eu troi'n rheilffyrdd, gadawyd eraill yn gyflenwyr dŵr, a ffyrdd oedd tynged rhai rhannau eraill.
Cefnwyd ar y rhan olaf o'r gamlas ym 1962. Fodd bynnag, o fewn ychydig flynyddoedd, roedd gwaith adfer wedi cychwyn ac mae'n parhau hyd heddiw.
Ymweld
Mae'r Ganolfan Ymwelwyr a'r ystafell de ar agor o 10am tan 4.30pm, drwy gydol y flwyddyn.
Gall cerddwyr fynd at lwybr y gamlas ar unrhyw adeg, drwy gydol y flwyddyn - mae'r maes parcio ar agor rhwng 6.30am a 4.45pm.
Mae'r llwybr tynnu yn wastad yn bennaf, ond nid oes arwyneb ar rai rhannau ac mae llethrau o gwmpas y lociau.
Mae mynediad da iawn i'r Ganolfan i gadeiriau olwyn, ond mae addasrwydd y llwybrau yn gyfyngedig.
Mae gwasanaethau R1 a 56 Bws Casnewydd yn aros wrth arhosfan fysiau Cwm Lane ar High Cross Road, ac nid yw'n bell i gerdded o'r fan hon i Ganolfan y Gamlas.
Addysg
Ymddiriedolaeth y Camlesi sy'n rhedeg Canolfan Camlas y Pedwar Loc ar Ddeg, a gall gyflwyno sesiynau addysgol i grwpiau ysgol sy'n ymweld, trwy drefnu hynny ymlaen llaw.
Diogelwch
Mae'r gamlas yn ddŵr agored, sy'n ddwfn mewn sawl man, gyda chwympau serth iawn i lawr i'r lociau.
Gall y llwybr tynnu fod yn anwastad mewn mannau, felly byddwch yn ofalus a gwisgwch esgidiau priodol.
Cysylltu
Canolfan Camlas y Pedwar Loc ar Ddeg
High Cross
Casnewydd
De Cymru
NP10 9GN
Ffôn: +44(0)1633 894802 or +44(0)1633 892167
E-bost: fourteenlocks@mbact.org.uk
Gwefan: http://fourteenlocks.mbact.org.uk/