Parc Sglefrfyrddio Casnewydd

Mae parc sglefrfyrddio Casnewydd, Carve Wicked, wedi'i leoli ym Mharc Tredegar.

Fe wnaeth grŵp o bobl ifanc helpu i ddewis y cynllun a'r nodweddion, gan gynnwys rhan ar ffurf powlen, rhan stryd, powlen ar ffurf cneuen ddaear a naid feiciau.

I rieni

Mae'r parc sglefrfyrddio'n denu nifer fawr o ddefnyddwyr a chaiff rhieni eu cynghori i oruchwylio plant iau. 

Mae cyfnodau tawelach ar foreau'r penwythnos a allai fod yn fwy addas i blant iau.

Defnyddio'r parc sglefrfyrddio

Byddai'n ddoeth i blant 5-8 oed aros yn rhan 'stryd' y parc, o dan oruchwyliaeth oedolion.

Mae'r ardal hon yn addas i ddefnyddwyr sgwteri, sgrialwyr a beicwyr BMX.

Caiff sgrialwyr cymwys 9 oed a hŷn ddefnyddio'r bowlen fach, y brif fowlen a'r rhedfa i feiciau.

Dylai beicwyr BMX nodi na chaniateir pegiau yn yr un o'r ardaloedd hyn.

Mae'r bowlen ar ffurf cneuen ddaear (y pwll) yn addas i arbenigwyr yn unig.

Amseroedd agor

Mae'r parc sglefrfyrddio ar agor rhwng 9.00am a 9.00pm.

Mae amseroedd agor Parc Tredegar yn amrywio ac mae'r gatiau'n cau pan fydd hi'n nosi.

Pan gaiff gatiau eu cloi, ni all cerbydau fynd i mewn ac allan o'r parc, ond gallwch gerdded i'r parc sglefrfyrddio tan 9.00pm.

Cysylltu

Parc Tredegar, Cardiff Road, Casnewydd

Cysylltu â Chyngor Dinas Casnewydd 

Gweld lleoliad y parc sglefrfyrddio ar fap

Rydych yn defnyddio'r parc sglefrfyrddio ar eich cyfrifoldeb eich hun