Os ydych chi'n chwilio am rywbeth ychydig yn wahanol i'w wneud, sy'n llawn hwyl, edrychwch ar y gweithgareddau isod, sy'n berffaith i grwpiau bach.
Golff
Mae gan Gasnewydd ddetholiad o gyrsiau golff gwych sy'n croesawu cymdeithasau a grwpiau, yn ogystal â nifer o glybiau golff sy'n darparu ar gyfer grwpiau.
Edrychwch ar y detholiad o gyrsiau golff sydd ar gael yng Nghasnewydd.
Canolfan wibgartio dan do gyffrous yw Supakart lle gallwch rasio mewn gwibgartiau dan do 200cc sy'n cyrraedd 45mya, ar y trac mwyaf a chyflymaf yng Nghymru.
Mae'r trac heriol yn cynnwys twnnel, cymysgedd o fachdroeon, a phont 450 troedfedd gyda chroesiad ac amser lap o 35 eiliad ar gyfartaledd!
Mae Supakart yn croesawu grwpiau ac mae caffi ar y safle sy'n gweini bwyd poeth ac oer.
Ffon: +44(0)1633 280808
Gwe: www.supakart.co.uk
Exit-60 Ystafell Ddianc
Rydych chi a hyd at chwe ffrind wedi'ch cloi yn ein hystafell thema am 60 munud ac yn gorfod dianc. Bydd angen i chi weithio gyda'ch gilydd fel tîm i ddehongli cliwiau, cwblhau posau a gweithio allan yn union beth sy'n real a beth sydd ddim os ydych chi am guro ein hystafell. P’un a ydych yn newydd i ystafelloedd dianc neu’n arbenigwr profiadol, rydym yn siŵr y cewch eich synnu.
Marchogaeth
Mae sawl stabl yng Nghasnewydd a'r cyffiniau sy'n cynnig cyfleoedd ar gyfer marchogaeth:
Stabl ac Ysgol Farchogaeth Beau Court
Ffon: +44(0)1633 252004
Canolfan Farchogol Ponderosa
Ffon: +44(0)1633 411777
Ysgol Farchogaeth Springfield
Ffon: +44(0)1633 680610
Stablau Hurio Isca
Ffon: +44(0)1633 420293
Pysgota
Cronfeydd Dŵr Ynysyfro
Ffon: +44(0)1633 838250
O fewn milltir o gyffordd 27 yr M4 ac oddeutu hanner milltir o Ganolfan Camlas y Pedwar Loc ar Ddeg, Tŷ-du, mae'r cronfeydd dŵr yn cynnwys dau lyn 16 a 10 erw, mewn man tawel ac mae digon o bysgod yno diolch i gyflenwi rheolaidd.
Llynnoedd Peterstone
Ffon: +44(0)7074 053332
Ebost: birch_syndicate@hotmail.co.uk
Pysgota bras mewn llynnoedd gyda stoc dda o garpiaid, penhwyaid a merfogiaid, mewn lleoliad prydferth ychydig funudau'n unig oddi ar gyffordd 28 yr M4 a 10 munud o ganol dinas Casnewydd.
Parc Trampolinio
Yn ogystal â mwy na 100 o drampolinau, mae'r atyniad hwn yn cynnwys wal ddringo 'clipio a dringo' a chwrs ymosod.
Ffon: +44(0)1633 746161
Quack Pack
Mae Quack Pack Meirion Owen yn darparu arddangosiadau heidio hwyaid doniol iawn i'r cyhoedd a chleientiaid corfforaethol. Mae'r tîm Quack Pack o gŵn defaid a hwyaid Rhedwyr Indiaidd digrif yn darparu arddangosiadau difyr, addysgol a rhyngweithiol mewn sioeau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, yn ogystal â digwyddiadau preifat.
Profwch y cŵn a'r hwyaid yn agos, a'r berthynas rhwng pobl, cŵn heidio ac anifeiliaid fferm. Dysgwch sut i reoli ci defaid sydd wedi'i hyfforddi'n dda gan ddefnyddio pedwar gorchymyn lleisiol, a llywio'r hwyaid egnïol ac awyddus i blesio trwy dwneli, i lawr llithrfeydd ac o amgylch rhwystrau mewn grŵp tynn gan ddefnyddio'ch menter a chŵn defaid. Nid yw pethau'n dilyn y cynllun bob tro, sy'n ychwanegu at yr hwyl!
Ffon: +44(0)1267 290282
Ffon: +44(0)7779 600112
Escape Charters
Ffon: +44 (0)1633 660488
Ffon: +44 (0)7890 782344
Mwynhewch antur fythgofiadwy yn môr-enweirio ac yn cael diwrnod gwych o hwylio Môr Hafren.
Wayne Cook, pysgotwr brwd sydd â 24 blynedd o brofiad hwylio, sy'n berchen ar 'The Escape', a gall hyd yn oed helpu dechreuwyr i ddal pysgodyn!
Barefoot Ceramics
Ffon: +44(0)1633 262830
Gweithgarwch â gwahaniaeth! Rhowch gynnig ar beintio crochenwaith gyda'ch teulu neu'ch ffrindiau, neu ar gyfer digwyddiad corfforaethol.
Rhowch gynnig ar lunio llestr a pheintio'ch dyluniad eich hun ar ddewis enfawr o grochenwaith.
Where When Wales
Clwb lleol yw Where When Wales sy'n cynnig gweithgareddau i grwpiau yn ne Cymru.
Mae digwyddiadau'n cael eu rheoli gan gydlynwyr i gynorthwyo os bydd ymholiad yn codi. Mae'r gweithgareddau'n amrywio o ferlota a dringo, i ddawnsio salsa a bowlio.
Ffon: +44(0)1633 869700