Exit-60 Ystafell Ddianc

Eich antur nesaf!

Rydych chi a hyd at chwe ffrind wedi'ch cloi yn ein hystafell thema am 60 munud ac yn gorfod dianc. Bydd angen i chi weithio gyda'ch gilydd fel tîm i ddehongli cliwiau, cwblhau posau a gweithio allan yn union beth sy'n real a beth sydd ddim os ydych chi am guro ein hystafell. P’un a ydych yn newydd i ystafelloedd dianc neu’n arbenigwr profiadol, rydym yn siŵr y cewch eich synnu.

Mae angen o leiaf dau chwaraewr arnoch i archebu, ond mae gan grwpiau mwy fwy o siawns o gwblhau'r ystafell.

Beth yw ystafell ddianc?

Gêm heriol yn feddyliol ac yn gorfforol yw ystafell ddianc lle mae'n rhaid i chi ddatrys cyfres o bosau gwahanol gan ddefnyddio'r cliwiau sydd wedi'u cuddio o fewn yr ystafell. Y nod yw dianc o'r ystafell yn yr amser cyflymaf posib. Mae uchafswm o 60 munud i wneud hyn. Ydych chi’n meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i ddianc?

‘Yn y carchar’

Rydych wedi’ch carcharu yng Ngharchar Casnewydd. Mae si ar led bod un o’ch cyd-garcharorion wedi dyfeisio cynllun clyfar i ddianc. Allwch chi ddatrys y cyfrinachau o fewn 60 munud er mwyn dianc i ryddid?


Exit-60

5 Market Street

Casnewydd

NP20 1FU

www.exit60.co.uk