Mae'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yng Nghasnewydd yn cael ei ddefnyddio gan feicwyr a cherddwyr ac mae'n ymlwybro drwy ardaloedd gwledig a threfol.
Mae sawl rhan o'r llwybr oddi ar y ffordd, ond cymerwch ofal ychwanegol wrth feicio ar hyd y ffordd neu wrth groesi'r ffordd.
Mae pedwar llwybr y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yng Nghasnewydd:
- Mae Llwybr 4 a Llwybr 47 yn ffurfio rhan o'r Lôn Geltaidd
- Mae Llwybr 46 yn ffurfio rhan o lwybr arfaethedig Blaenau'r Cymoedd ar hyd Camlas Mynwy a Brycheiniog
- Llwybr 88 yw'r llwybr o ganol dinas Casnewydd i Gaerllion, sef llwybr gwastad yn bennaf ar hyd glan yr afon, sy'n cysylltu canol Casnewydd â Malpas, y gaer Rufeinig yng Nghaerllion ac yn arwain at gefn gwlad yn ardal Gwesty'r Celtic Manor, Dyffryn Wysg a Choed Gwent.
Mae mapiau a luniwyd ar gyfer beicwyr ar gael gan Sustrans neu lawrlwythwch lwybr Casnewydd a Chaerllion (pdf)
Chwiliwch fap rhyngweithiol am feicio yn ne-ddwyrain Cymru sy'n cynnwys gwybodaeth am leoedd i aros a phethau i'w gweld.
Lawrlwythwch drydydd rhifyn Map Beicio Casnewydd (pdf)
Llwybr beicio Casnewydd a Chaerdydd
Agorodd llwybr beicio yn cysylltu Casnewydd a Chaerdydd ym mis Gorffennaf 2015 sy'n cynnig llwybr diogel, parhaus i gymudwyr.
Mae'r llwybr oddi ar y ffordd yn rhannol ac mae'n defnyddio ffyrdd cyhoeddus llai prysur a ffyrdd gwledig heb eu dosbarthu mewn mannau.
Mae'n cysylltu'n uniongyrchol â Thŷ Tredegar a Llwybr Arfordir Cymru.
Lawrlwythwch fap yn dangos cyswllt llwybr beicio Casnewydd-Caerdydd (pdf)
Llwybrau beicio de-ddwyrain Cymru
Lawrlwytho Taflen llwybrau beicio treftadaeth (pdf)
Lawrlwytho Taflen llwybrau beicio i'r teulu (pdf)
Lawrlwytho Taflen parciau beiciau a llwybrau beicio mynydd (pdf)
Lawrlwytho Taflen llwybrau ar y ffordd ac oddi ar y ffordd (pdf)
Cyced Casnewydd
Ymwelwch â Cyced Casnewydd am fwy o lwybrau beicio lleol, cymorth gan glybiau ac adnoddau.
Llogi beiciau
Mae gan Newport City Cycles yn Nhŷ Tredegar feiciau i oedolion a phlant, ynghyd â ‘tag alongs’ a beiciau tandem.
Ffoniwch 07538 721922 i gael manylion neu logi beic.
Felodrom Cenedlaethol Cymru
Mae Casnewydd yn gartref i Felodrom Cenedlaethol Cymru sydd ar gael i'w ddefnyddio gan glybiau a defnyddwyr cyffredin.
Beicio mynydd
Mae'r llwybr gwych 15km, Llwybr Twrch yn Cwmcarn Forest Drive, wedi'i leoli gerllaw Casnewydd.