Cymorth costau byw - cwestiynau cyffredin

Gwybodaeth gyffredinol

A ellir ei dynnu oddi ar fil y dreth gyngor?

Na, taliad tuag at gostau byw yw hwn nid ad-daliad y dreth gyngor, Yr unig gysylltiad â'r dreth gyngor yw ei fod yn cael ei roi i feddianwyr eiddo ym mandiau A, B, C a D yn ogystal â phob aelwyd sy'n cael gostyngiad y dreth gyngor (a elwid gynt yn fudd-dal y dreth gyngor).

 

A fydd pawb yn ei gael?

Bydd, cyn belled â’ch bod meddiannu eiddo sydd ym mand A-D ar 15 Chwefror 2022 neu yn derbyn gostyngiad yn y dreth gyngor.

 

A yw’r taliad yn destun prawf modd?

Na, bydd pawb sy'n byw mewn eiddo ym mand A-D neu sy'n derbyn gostyngiad yn y dreth gyngor) yn cael y taliad.

 

Oes rhaid i mi ei dalu'n ôl?

Na, nid oes gofyn i chi ei ad-dalu.

 

Beth am feddianwyr eiddo ar fandiau uwch?

Dim ond i fandiau A-D y mae'r cynllun hwn yn berthnasol, sef tua 2/3 o gyfanswm yr anheddau yng Nghasnewydd.

 

Rwy'n berchen ar eiddo yng Nghasnewydd ond nid wyf yn byw yno, a fyddaf yn cael taliad?

Na. Ni wneir taliadau ar gyfer unrhyw ail gartrefi nac eiddo gwag.

 

Rwyf wedi’i fy eithrio rhag talu’r dreth gyngor oherwydd fy mod yn berson sy’n gadael gofal. A fyddaf yn cael taliad?

Bydd y rhai sydd wedi'u heithrio ac nad ydynt yn talu'r dreth gyngor fel y rhai sy'n gadael gofal neu pobl sydd â nam meddyliol difrifol hefyd yn cael taliadau.  Ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod sut y caiff myfyrwyr a phobl eraill sydd wedi’u heithrio eu trin.

 

Symudais i Gasnewydd ar ôl 15 Chwefror 2022 a fyddaf yn cael taliad?

Os symudoch i mewn ar ôl 15 Chwefror 2022, bydd y taliad yn seiliedig ar y lleoliad yr oeddech yn byw ynddo ar 15 Chwefror, os oedd hyn mewn ardal cyngor wahanol, bydd angen i chi wneud cais i'r cyngor hwnnw.

Cofestru

Sut ydw i’n cofrestru i gael taliad?

Nid oes angen i’r rhai sy’n talu drwy Ddebyd Uniongyrchol gofrestru, bydd angen i’r rhai nad ydynt yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol lenwi ffurflen gofrestru syml.

 

Bydd y ffurflen hon ar gael ar ein wefan o fis Ebrill pan fydd y cynllun yn agor. Edrychwch ar ein wefan  o fis Ebrill ymlaen i gael y newyddion diweddaraf.

 

Pam fod y rhai sy’n talu drwy ddebyd uniongyrchol yn cael eu talu'n gyntaf?

Mae manylion eu cyfrif banc gennym yn barod, felly mae’r broses yn symlach.

 

Pryd fydd y cyfnod cofrestru yn agor?

Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn fyw ar ein wefan yn ystod mis Ebrill.

 

Pa wybodaeth sydd ei hangen i mi gofrestru?

Bydd angen rhywfaint o wybodaeth o’ch bil treth gyngor arnoch a'ch manylion banc, fel y gallwn eich talu.

 

Ar ôl cofrestru am ba hyd y bydd rhaid i mi aros cyn i mi gael fy nhaliad?

Rydym yn disgwyl y bydd tua 25,000 pobl yn cofrestru, bydd yn cymryd amser i brosesu'r manylion hynny, ymdrinnir â phob un yn y drefn y cânt eu derbyn.

 

Os byddaf yn trefnu Debyd Uniongyrchol, a fyddaf yn cael fy nhalu'n gynt?

Byddwch, ni fydd rhai i chi gofrestru a bydd eich manylion gennym yn barod i’ch talu.