Y Pwyllgor Trwyddedu

Mae Pwyllgor Trwyddedu Cyngor Dinas Casnewydd yn gyfrifol am benderfynu ar geisiadau am drwyddedau ar gyfer casgliadau stryd ac o dŷ i dŷ, a thrwyddedau ar gyfer gyrwyr, cerbydau a gweithredwyr tacsi.

Mae tri aelod o’r Pwyllgor Trwyddedu’n ffurfio grŵp ymgynghorol sy’n cyfarfod yn rheolaidd â chynrychiolwyr masnach dacsis Casnewydd. 

Mae’r Panel Trwyddedu Tacsis yn penderfynu ar geisiadau am drwyddedau tacsi preifat a cherbyd hacni.   

Mae’r Is-bwyllgor Trwyddedu’n cynnal gwrandawiadau ac yn penderfynu ar geisiadau fel adolygiadau o Drwyddedau Safle a Thystysgrifau Safle Clwb o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005.  

Mae cyfarfodydd y Pwyllgor Trwyddedu ar agor i’r cyhoedd a gall unrhyw un fynychu tra bod materion anghyfrinachol yn cael eu trafod.

Darllenwch fanylion cyfarfodydd y Pwyllgor Trwyddedu

Edrychwch ar aelodaeth y Pwyllgor Trwyddedu

Lawrlwythwch y Cod Ymarfer Trwyddedu (pdf)

Ewch i dudalennau trwyddedu’r cyngor