Eithriadau rhag talu'r Dreth Gyngor - Eiddo Gwag

 

 • I gael cyngor ynghylch cartrefi gwag a'r cymorth y gall Cyngor Dinas Casnewydd ei gynnig i berchnogion, ewch i'n tudalen we Tai Gwag.

• Unwaith y bydd eich eiddo'n cael ei feddiannu, sicrhewch eich bod yn diweddaru Treth y Cyngor Symud tŷ neu newid enw.

 

A

Eiddo sy'n destun atgyweiriadau/newidiadau strwythurol mawr

 
 

Eiddo heb ei feddiannu na'i ddodrefnu'n sylweddol, sydd angen neu sy'n cael atgyweiriadau strwythurol neu newidiadau strwythurol i'w wneud yn addas i fyw ynddo ac am chwe mis ar ôl i waith o'r fath gael ei gwblhau'n sylweddol, hyd at 12 mis

B

Annedd heb ei meddiannu, ym mherchenogaeth elusen

 
 

Gellir caniatáu eithriad i annedd heb ei meddiannu am hyd at chwe mis o'r dyddiad pan ddaeth yr annedd yn wag, ar yr amod bod yr eiddo ym mherchenogaeth corff a sefydlwyd at ddibenion elusennol ac fe'i meddiannwyd ddiwethaf i gyflawni amcanion yr elusen

C

Eiddo sy'n wag am hyd at chwe mis

 
 

Eiddo heb ei feddiannu na'i ddodrefnu'n sylweddol am lai na chwe mis

D

Eiddo gwag – person yn y carchar

 
 

Annedd heb ei meddiannu y mae ei pherchennog mewn carchar, ysbyty neu fan cadw arall yn ôl gorchymyn llys. Rhowch enw'r sefydliad

E

Eiddo gwag – person wedi mynd i fyw mewn cartref gofal

 
 

Annedd heb ei meddiannu, y mae unig breswylfa neu brif breswylfa'r person atebol bellach yn ysbyty, cartref gofal preswyl, cartref nyrsio, cartref nyrsio iechyd meddwl neu hostel. Rhowch enw'r sefydliad

F

Talwr y dreth gyngor sydd wedi marw

 
 

Annedd heb ei meddiannu ac mae'r person a oedd yn gyfrifol am dalu'r dreth gyngor wedi marw, nid yw'r eiddo wedi'i feddiannu ers dyddiad y farwolaeth ac ni chyflwynwyd grant profiant neu lythyron gweinyddu, neu mae llai na chwe mis wedi mynd heibio ers cyflwyno'r grant. Rhowch ddyddiad y farwolaeth a dyddiad y grant profiant os yw'n berthnasol

G

Meddiant wedi'i wahardd yn ôl y gyfraith

 
 

Annedd heb ei meddiannu, y mae cyfraith neu Ddeddf Seneddol yn gwahardd ei meddiannu

H

Annedd a gedwir ar gyfer gweinidog yr efengyl

 
 

Annedd heb ei meddiannu sy'n cael ei chadw i'w defnyddio fel annedd gan weinidog yr efengyl i gyflawni dyletswyddau ei swydd ohoni

I

Person sy'n byw yn rhywle arall i dderbyn gofal personol

 
 

Annedd heb ei meddiannu, y mae unig breswylfa neu brif breswylfa'r person atebol bellach yn rhywle arall (nid ysbyty, cartref gofal preswyl, cartref nyrsio, cartref nyrsio iechyd meddwl neu hostel) er mwyn derbyn gofal

J

Person sy'n byw yn rhywle arall i ddarparu gofal personol

 
 

Annedd heb ei meddiannu, y mae unig breswylfa neu brif breswylfa'r person atebol bellach yn rhywle arall er mwyn darparu gofal i rywun arall

K

Annedd wedi'i gadael yn wag gan fyfyriwr

 
 

Annedd heb ei meddiannu a feddiannwyd ddiwethaf fel unig breswylfa neu brif breswylfa un myfyriwr neu ragor yn unig. Mae'r eithriad hwn yn berthnasol yn unig mewn achosion pan fydd y perchennog yn fyfyriwr neu daeth yn fyfyriwr o fewn chwe wythnos o adael yr eiddo

L

Morgeisiai ym meddiant

 
 

Annedd heb ei meddiannu y mae'r morgeisiai (benthyciwr) ym meddiant o dan y morgais

Q

Eiddo wedi'i adael yn wag gan fethdalwr

 
 

Annedd heb ei meddiannu y mae'r person atebol yn gyfrifol yn rhinwedd ei rôl fel ymddiriedolwr methdaliad o dan Ddeddf Methdaliad 1914 neu Ddeddf Ansolfedd 1986

R

Safle carafán heb ei feddiannu neu angorfa llong heb ei meddiannu

 
 

Annedd ar ffurf safle neu angorfa sydd heb ei feddiannu/meddiannu gan garafán neu long

T

Rhandy heb ei feddiannu wrth ymyl adeilad wedi'i feddiannu

 
 

Rhandy heb ei feddiannu na cheir ei osod ar wahân.