A. Nam Meddyliol Difrifol
Apply online for council tax discount
Lawrlwythwch y Ffurflen Gais ar gyfer Diystyru Person at Ddibenion Gostyngiad - Nam Meddyliol Difrifol (pdf)
Os oes gan unigolyn nam meddyliol difrifol, gan gynnwys problemau iechyd meddwl neu ddementia, gallai gostyngiad fod yn berthnasol.
Rhaid bod yr unigolyn wedi cael tystysgrif gan ymarferwr meddygol cofrestredig a rhaid iddo fod yn derbyn un o'r budd-daliadau canlynol:
- Lwfans gweini
- Lwfans anabledd difrifol
- Elfen ofal y lwfans byw i'r anabledd sy'n daladwy naill ai ar y lefel uchaf neu'r lefel ganol
- Cynnydd yng nghyfradd y pensiwn anabledd
- Lwfans gweithio i'r anabl
- Atodiad i'r anghyflogadwy
- Cymhorthdal incwm sy'n cynnwys premiwm anabledd
- Budd-dal analluogrwydd
- Elfen bywyd beunyddiol taliad annibyniaeth personol
- Credyd cynhwysol, sef swm sy'n cael ei dalu i unigolyn oherwydd gallu cyfyngedig yr unigolyn hwnnw i weithio neu allu cyfyngedig yr unigolyn hwnnw i weithio a chyflawni gweithgareddau cysylltiedig â gwaith
B. Myfyrwyr mewn Addysg Amser Llawn
Apply online for council tax discount
Lawrlwythwch y Ffurflen Gais ar gyfer Diystyru Person at Ddibenion Gostyngiad - mewn Addysg Amser Llawn/Myfyriwr (pdf)
Bydd angen tystysgrif Statws Myfyriwr; cysylltwch â chofrestrydd y sefydliad addysg.
Gallai myfyrwyr a'u dibynyddion fod yn gymwys hefyd os nad ydynt yn ddinasyddion y Deyrnas Unedig ac ni allant hawlio budd-daliadau na derbyn gwaith â thâl.
C. Ymadawyr Ysgol a Choleg
Apply online for council tax discount
Caiff pobl ifanc 18 a 19 oed sydd newydd adael yr ysgol neu'r coleg eu diystyru tan 1 Tachwedd y flwyddyn honno.
Anfonwch ymholiad drwy'r e-bost.
D. Myfyriwr Nyrsio
Apply online for council tax discount
Lawrlwythwch y Ffurflen Gais ar gyfer Diystyru Person at Ddibenion Gostyngiad - Myfyriwr Nyrsio (pdf)
Bydd angen tystysgrif Statws Myfyriwr; cysylltwch â chofrestrydd y sefydliad addysg.
E. Preswylwyr mewn Cartref Gofal/Ysbyty/Hostel
Apply online for council tax discount
Lawrlwythwch y Ffurflen Gais ar gyfer Diystyru Person at Ddibenion Gostyngiad - Preswylydd mewn Cartref/Hostel (pdf)
Mae hyn yn berthnasol i bobl sydd â'u prif breswylfa mewn cartref gofal preswyl, cartref nyrsio, cartref nyrsio iechyd meddwl neu hostel, ac sy'n derbyn gofal a/neu driniaeth yno.
F. Gofalwyr/Gweithwyr Gofal
Apply online for council tax discount
Lawrlwythwch y Ffurflen Gais ar gyfer Diystyru Person at Ddibenion Gostyngiad - Gweithwyr Gofal (pdf)
Rhan A
Gall gweithwyr gofal sy'n cael eu cyflogi gan elusen neu awdurdod lleol i ddarparu gofal neu gymorth, neu'r ddau, i berson gael gostyngiad o 25% yn y dreth gyngor, ar yr amod eu bod yn bodloni amodau penodol:
- Rhoddir cymorth am o leiaf 24 awr yr wythnos
- Ni chaiff y cyflog wythnosol fod dros £36
- Mae'n rhaid bod y gweithiwr gofal yn byw ar y safle a ddarperir gan yr elusen neu'r awdurdod lleol
- Nid yw'r eiddo eisoes yn cael ei feddiannu gan ddau berson neu fwy nad ydynt yn gymwys i gael unrhyw ostyngiad
Rhan B
Ni chaiff gofalwyr fod yn derbyn tâl a rhaid iddynt fod yn byw yn yr un annedd â'r person sy'n derbyn gofal. Ni all y person sy'n derbyn gofal fod yn bartner i'r gofalwr nac yn blentyn o dan 18 oed iddo. Rhaid i'r gofal gael ei ddarparu am o leiaf 35 awr yr wythnos ar gyfartaledd. Rhaid i'r person sy'n derbyn gofal fod yn derbyn un o'r budd-daliadau canlynol
- lwfans gweini (unrhyw gyfradd)
- cyfradd uchaf neu ganol elfen gofal y lwfans byw i'r anabl
- pensiwn anabledd uwch
- lwfans gweini cyson uwch
- cyfradd safonol neu gyfradd uwch elfen bywyd beunyddiol y taliad annibyniaeth personol
G. Prentisiaid
Apply online for council tax discount
Lawrlwythwch y Ffurflen Gais ar gyfer Diystyru Person at Ddibenion Gostyngiad – Prentisiaid (pdf)
Person sy'n cael ei gyflogi i ddysgu crefft neu broffesiwn ac sy'n derbyn hyfforddiant a fydd yn arwain at gymhwyster.
Mae'n rhaid bod y person yn ennill llai na £195 yr wythnos.
H. Pobl yn y Carchar
Apply online for council tax discount
Lawrlwythwch y Ffurflen Gais ar gyfer Diystyru Person at Ddibenion Gostyngiad - Person Dan Glo (pdf)
Mae pobl sydd yn y carchar (am resymau heblaw peidio â thalu dirwyon neu'r dreth gyngor) neu sydd wedi'u cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl neu'r Ddeddf Mewnfudo yn cael eu diystyru.
I. Aelodau Cymunedau Crefyddol
Apply online for council tax discount
Pobl sy'n ymgolli mewn gweddi, myfyrdod, addysg a lliniaru dioddefaint, sydd heb unrhyw incwm na chyfalaf personol, ac sy'n dibynnu ar y gymuned i fodloni anghenion materol.
Anfonwch ymholiad drwy'r e-bost
J. Aelodau Lluoedd Arfog ar Ymweliad
Apply online for council tax discount
Caiff person ei ddiystyru os oes ganddo gysylltiad perthnasol, o fewn ystyr Deddf Lluoedd Arfog ar Ymweliad 1952, â llu arfog sydd ar ymweliad o un o'r gwledydd y mae'r Ddeddf yn berthnasol iddynt.
Anfonwch ymholiad drwy'r e-bost
K. Pobl â braint neu freintryddid diplomyddol
Apply online for council tax discount
Mae'r gostyngiad yn berthnasol i unrhyw berson sydd â breintiau neu freintryddid o dan Ddeddf Breintiau Diplomyddol 1964, Deddf Ysgrifenyddiaeth y Gymanwlad 1966, Deddf Cysylltiadau Consylaidd 1968 neu Orchymyn Gwledydd y Gymanwlad a Gweriniaeth Iwerddon (Breintryddid a Breintiau) 1985.
Anfonwch ymholiad drwy'r e-bost
L. Aelodau Pencadlysoedd Rhyngwladol a Sefydliadau Amddiffyn
Apply online for council tax discount
Unrhyw berson sy'n aelod o bencadlys rhyngwladol neu sefydliad amddiffyn ac unrhyw ddibynnydd aelod o'r fath.
Anfonwch ymholiad drwy'r e-bost