Eithriadau'r Dreth Gyngor – Eiddo wedi'i Feddiannu
Mae’r eiddo wedi’i feddiannu, ond mae amodau penodol yn berthnasol
Esemptiadau’r dreth gyngor ar gyfer eiddo wedi’i feddiannu
|
|
|
|
M
|
Neuaddau Preswyl Myfyrwyr
|
(dolen i ffurflen pdf[LJ1])
|
|
Neuadd breswyl a feddiannir gan fyfyrwyr yn bennaf ac a berchenogir neu a reolir gan sefydliad addysgol
|
N
|
Meddiannaeth gan fyfyriwr/fyfyrwyr yn unig
|
(dolen i ffurflen pdf)
|
|
Annedd a feddiannir YN UNIG gan un neu fwy o bobl iau nag 20 oed sydd wedi gadael yr ysgol neu’r coleg, neu fyfyrwyr, naill ai fel llety amser llawn neu yn ystod y tymor.
Bydd yr esemptiad yn parhau am gyfnodau gwyliau pan fydd gan y myfyriwr hawl i feddiannu o hyd ar yr amod bod yr eiddo wedi bod yn cael ei ddefnyddio fel llety yn ystod y tymor ac y bydd yn cael ei ddefnyddio felly unwaith yn rhagor.
Mae’n rhaid darparu tystysgrifau myfyrwyr
|
O
|
Llety lluoedd arfog y Deyrnas Unedig
|
(dolen i ffurflen pdf)
|
|
Annedd a berchenogir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer llety lluoedd arfog e.e. barics, lle bwyta, llety priod. Nid yw’n berthnasol i lety ar gyfer lluoedd ar ymweliad
|
P
|
Llety lluoedd ar ymweliad
|
(dolen i ffurflen pdf)
|
|
Annedd lle mae gan o leiaf un unigolyn a fyddai’n atebol gysylltiad â chorff, mintai neu ddidoliad llu ar ymweliad
|
S
|
Meddiannaeth gan unigolion iau na 18 oed yn unig
|
(dolen i ffurflen pdf)
|
|
Annedd a feddiannir gan unigolyn neu unigolion 18 oed neu iau yn unig. Mae’n rhaid darparu dyddiadau geni
|
U
|
Meddiannaeth gan bobl sydd â nam meddyliol difrifol yn unig
|
(dolen i ffurflen pdf)
|
|
Annedd a feddiannir gan unigolyn neu unigolion sydd â nam meddyliol difrifol yn unig.
Mae’n rhaid cael tystysgrif meddyg.
Mae’n rhaid i chi hefyd fod yn derbyn un o’r budd-daliadau cymwys canlynol:
- budd-dal analluogrwydd
- lwfans gweini
- lwfans anabledd difrifol
- elfen ofal y lwfans byw i’r anabl
- cynnydd yng nghyfradd y pensiwn anabledd
- lwfans gweithio i’r anabl
- atodiad i’r anghyflogadwy
- lwfans gweini cyson
- lwfans i’r anghyflogadwy
- cymhorthdal incwm sy’n cynnwys premiwm anabledd
- budd-dal analluogrwydd
- elfen bywyd beunyddiol y taliad annibyniaeth personol
- credyd cynhwysol, sef swm a delir i unigolyn o ganlyniad i’w allu cyfyngedig i weithio neu ei allu cyfyngedig i weithio a gwneud gweithgarwch cysylltiedig â gwaith
|
V
|
Prif breswylfan unigolyn sydd â braint/breinryddid diplomyddol
|
(dolen i ffurflen pdf)
|
|
Annedd sy’n brif breswylfan unigolyn sydd â braint neu freinryddid diplomyddol
|
W
|
Meddiannaeth rhandy gan berthynas dibynnol
|
(dolen i ffurflen pdf)
|
|
Rhandy sy’n gysylltiedig ag annedd a feddiannir lle mae’r rhandy’n cael ei feddiannu gan berthynas dibynnol
|
X |
Annedd a feddiannir gan Unigolyn sy'n Gadael Gofal 24 oed neu iau.
|
(dolen i ffurflen pdf)
|