Eithriadau rhag talu'r Dreth Gyngor – Ail Gartrefi
Yng Nghymru, gall rheolau arbennig fod yn berthnasol i anheddau sydd wedi'u dodrefnu ond sydd heb breswylwyr.
Yng Nghasnewydd, ni chaniateir gostyngiadau ar gyfer anheddau yn y categori hwn.
Enghraifft...
Mae unigolyn yn gweithio yng Nghasnewydd ac yn byw mewn fflat wedi'i dodrefnu yma.
Tŷ yn Llundain yw ei brif gartref ac mae'n talu'r dreth gyngor lawn yno.
Nid oes unrhyw un arall yn byw yn y fflat yng Nghasnewydd felly nid oes unrhyw breswylwyr eraill y mae'n rhaid eu cyfrif ac, oherwydd bod y fflat wedi'i dodrefnu, nid oes gostyngiadau statudol ar gael, fel gostyngiad person sengl neu ostyngiad eiddo gwag.
Mae'n rhaid talu'r dreth gyngor lawn ar y ddwy annedd.
Mae profion ar gael ar gyfer penderfynu ar brif breswylfa unigolyn. I gael cyngor, anfonwch e-bost at counciltax@newport.gov.uk
Eithriad
Pan fydd annedd wedi'i gadael yn wag oherwydd bod rhaid i unigolyn fyw yn rhywle arall, e.e. annedd sydd wedi'i darparu gan ei waith, mae eithriad i'r rheol gyffredinol, sef na chaniateir gostyngiad.
Ail gartrefi ym mherchenogaeth aelodau'r Lluoedd Arfog
Mae'n rhaid i gynghorau yng Nghymru roi gostyngiad o 50% ar gyfer ail gartrefi ym mherchenogaeth aelodau'r Lluoedd Arfog, sy'n byw mewn llety a ddarperir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.