Newport Matters production costs

Mae’n bwysig bod corff cyhoeddus, fel Cyngor, yn cyfathrebu’n rheolaidd â’r bobl a’r cymunedau y mae’n ei wasanaethu.

Materion Casnewydd yw papur newydd Cyngor Dinas Casnewydd i breswylwyr a gyhoeddir chwe gwaith y flwyddyn.

Mae ganddo ddosbarthiad o tua 69,000 copi fesul rhifyn a chaiff ei gyhoeddi, ei brintio a’i ddosbarthu i bob cartref yng Nghasnewydd am tua 6c fesul rhifyn fesul preswylydd.

Does gan lawer o breswylwyr Casnewydd ddim mynediad i’r rhyngrwyd na chyfryngau newyddion digidol a dengys ymchwil bod Materion Casnewydd yn ffurf printiedig gwerthfawr iddyn nhw.

Mae’r ymdrechion i ostwng costau cyhoeddi yn cynnwys tendrau rheolaidd a chreu incwm o hysbysebion.

Mae’r holl gynnwys golygyddol a’r gwaith dylunio yn cael ei wneud yn fewnol er na chyflogir staff y Cyngor i weithio ar Materion Casnewydd.

Mae ei gyhoeddi yn ffurfio cylch gorchwyl ehangach o gyfathrebu gan gynnwys cysylltiadau cyhoeddus, cysylltiadau â’r cyfryngau, cyfryngau cymdeithasol, rheoli argyfyngau, cynnwys y wefan, marchnata a dylunio corfforaethol.

Mae preswylwyr yn cael 6 rhifyn y flwyddyn am gost flynyddol i’r Cyngor o 30 ceiniog y pen – llai na hanner cost stamp ail ddosbarth (75c).

Gweld a lawrlwytho rhifynnau Materion Casnewydd.

 

 

2018/19

2019/20 2020/21 2021/22  2022/23

Nifer y rhifynnau bob blwyddyn

6

 6

5 (Rhifyn Mai wedi'i ganslo - Covid-19)

 6

 6

Cost gros printio 6 rhifyn

£16,005

£12,393.50 £10,357.13

 £12,872

 £18,211.81

Cost gros dosbarthu 6 rhifyn

£25,733.63

 £25,824.90

£22,138.42

 £26,664

 £29,164.98

Incwm hysbysebu 6 rhifyn

 £800

£0 £635

 £1720

 £2.080

Cost net flynyddol 6 rhifyn

£40,997.95

 £38,552.76

£31,860.55

 £37,816

 £45,269.79

Cost net ar gyfartaledd fesul rhifyn

£6,829.66

 £6,425.46

£6,372.11

 £6,302.67

 £9,059.36

Cost net ar gyfartaledd fesul preswylydd fesul blwyddyn

27c

 26c

21c 24c

 30c

Cost net ar gyfartaledd fesul preswylydd fesul rhifyn

4.5c

 4c

4c 4c  6c