Cartrefi Gwag


Cartrefi Gwag 

Nod Cyngor Dinas Casnewydd yw lleihau nifer y cartrefi gwag hirdymor sy'n eiddo preifat, a'u heffaith ar y ddinas, drwy ei Strategaeth Cartrefi Gwag, ar gael ar wefan y cyngor.  

Ffigurau Cyfredol

 

Y ffigur diweddaraf ar gyfer nifer yr anheddau preswyl sy'n wag am fwy na 6 mis, fel y'u diffinnir gan y Mesur Atebolrwydd Cyhoeddus MAC/013, oedd ar gyfer Ebrill 2020 – 1,283. Anheddau preswyl preifat yw'r rhain sy'n eiddo preifat heb eu meddiannu am fwy na 6 mis ar 1 Ebrill. Ceir data yn bennaf o gofnodion y dreth gyngor. Mae'r canllawiau ar gyfer y mesur hwn i'w gweld ar wefan Data Cymru yma.

 

O'r 1,283 o gartrefi gwag ym mis Ebrill 2020, yr amser yr oeddent yn wag oedd:

a)    Mwy na 2 flynedd – 697

b)    Mwy na 5 mlynedd – 143

c)    Mwy na 10 mlynedd – 46

Nifer y cartrefi gwag, fel y'u diffinnir ar gyfer MAC/013, ar gyfer blynyddoedd blaenorol oedd:

  • 2017/18 – 1199
  • 2018/19 - 1199
  • 2019/20 – 1133
  • 2020/21 - 1283

Nifer y cartrefi gwag a ddychwelwyd i'w defnyddio yn dilyn camau gweithredu gan yr awdurdod lleol, fel y'u diffinnir ar gyfer MAC/013, oedd:

  • 2017/18 – 15
  • 2018/19 - 7
  • 2019/20 – 6
  • 2020/21 - 11

Cyflwynwyd MAC/013 yn 2017/18 a disodlodd y Dangosydd Strategol Cenedlaethol ar gyfer cartrefi gwag, PSR/004. Nifer y cartrefi gwag hirdymor sy'n eiddo preifat fel y'u diffinnir ar gyfer y dangosydd perfformiad strategol cenedlaethol PSR/004, oedd:

  • 2014/15 - 1,250
  • 2015/16 - 1,314
  • 2016/17 - 1,293

Nifer y cartrefi gwag a ddychwelwyd i'w defnyddio yn dilyn camau gweithredu gan yr awdurdod lleol, fel y'u diffinnir ar gyfer PSR/004, oedd:

  • 2014/15 – 42
  • 2015/16 – 84
  • 2016/17 - 50

 

Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cyhoeddi un Gorchymyn Rheoli Anheddau Gwag, yn 2012.