Dweud Wrthym Unwaith
Pan fydd rhywun yn marw, gall Dweud Wrthym Unwaith eich helpu i roi'r wybodaeth angenrheidiol i'r Adran Gwaith a Phensiynau fel y gallant ei throsglwyddo i nifer o adrannau eraill y llywodraeth a gwasanaethau'r cyngor lleol.
Sut i ddefnyddio Dweud Wrthym Unwaith
Rhaid i chi gofrestru'r farwolaeth yn gyntaf a gallwch wedyn naill ai:
- ffoniwch 01633 235510 i wneud apwyntiad i drafod mewn person gyda'r Cofrestrydd
- ffoniwch yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 0800 085 7308 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am ac 8pm i drafod dros y ffôn.
Bydd yn helpu os oes gennych y wybodaeth ganlynol am y sawl sydd wedi marw:
- ei rif Yswiriant Gwladol a'i ddyddiad geni
- manylion unrhyw fudd-daliadau neu wasanaethau yr oedd yn eu derbyn
- ei dystysgrif marwolaeth os yn defnyddio'r gwasanaeth ffôn
- ei drwydded yrru neu rif trwydded yrru
- ei basbort neu rif pasbort a thref/gwlad enedigol
- enw'r darparwr tai cymdeithasol os yn berthnasol
- Bathodyn Glas os yn berthnasol
Gofynnir i chi hefyd am fanylion cyswllt ar gyfer:
- ei berthynas agosaf
- gŵr, gwraig neu bartner sifil sy'n ei oroesi
- y person sy’n delio gyda’i ystâd
Rhaid i chi gael caniatâd y bobl hyn cyn rhoi gwybodaeth amdanynt.
Pwy gaiff ei hysbysu?
Bydd Dweud Wrthym Unwaith yn hysbysu’r gwasanaethau canlynol am y farwolaeth:
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau (Pensiwn, Anabledd a Gwasanaeth Gofalwyr; Canolfan Byd Gwaith, Tîm Iechyd Tramor)
- Cyllid a Thollau ei Mawrhydi (Budd-dal Plant; Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith; Trethiant Personol)
- Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau
- Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
Gwasanaethau'r Cyngor gan gynnwys:
Budd-dal tai, budd-dal y dreth gyngor, darparwr tai cyngor (os yn berthnasol), y dreth gyngor, llyfrgelloedd a gwasanaethau hamdden, Bathodynnau Glas, gwasanaethau cymdeithasol oedolion, gwasanaethau cymdeithasol plant, casglu taliadau am wasanaethau'r cyngor, gwasanaethau etholiadol, teithio rhatach, casglu gwastraff â chymorth, trwyddedau parcio i breswylwyr, trwyddedu, addysg.
Am ragor o wybodaeth lawrlwythwch y daflen Dweud Wrthym Unwaith (pdf), ewch i dudalen What to Do After a Death Direct.Gov neu cysylltwch â Gwasanaeth Cofrestru Casnewydd.