Mae’n rhaid i farwolaeth gael ei chofrestru gan y Cofrestrydd Genedigaethau a Marwolaethau yn yr ardal lle y digwyddodd y farwolaeth o fewn pum niwrnod, oni bai bod y Cofrestrydd yn dweud y gellir ymestyn y cyfnod.
O 25 Mawrth 2022 bydd yr holl gofrestriadau marwolaethau a marw-enedigaethau yn cael eu cynnal yn bersonol yn y Plasty drwy apwyntiad yn unig. Dylech gyrraedd ar yr amser a neilltuwyd. Os byddwch yn cyrraedd yn hwyr efallai na fyddwn yn gallu eich gweld ac efallai y bydd yn rhaid aildrefnu eich apwyntiad.
Ffoniwch 01633 235510 i drefnu apwyntiad ar ôl i’r meddyg ardystio (meddyg teulu neu feddyg mewn ysbyty) roi’r dystysgrif feddygol o achos y farwolaeth. Ers mis Mawrth 2020, mae’r tystysgrif gan y meddyg wedi'i hanfon drwy e-bost i'r Swyddfa Gofrestru. Bydd hyn yn parhau i ddigwydd yn y rhan fwyaf o achosion, fodd bynnag, os yw'r meddyg teulu'n rhoi'r dystysgrif feddygol i chi, bydd angen i chi ddod a hi gyda chi pan fyddwch yn mynychu'r swyddfa gofrestru.
Crwner
Weithiau, bydd angen i’r Cofrestrydd roi gwybod i’r crwner am farwolaeth, a allai achosi oedi wrth gofrestru’r farwolaeth.
Sut i gofrestru marwolaeth
Dylai’r farwolaeth gael ei chofrestru gan berthynas i’r ymadawedig neu rywun a oedd yn bresennol ar adeg y farwolaeth, er enghraifft, uwch weinyddwr y sefydliad lle y digwyddodd y farwolaeth, neu gall y sawl sy’n rhoi cyfarwyddiadau i’r trefnwr angladdau gofrestru.
Nid yw bod yn ysgutor ewyllys ynddo’i hun yn rhoi’r hawl i chi gofrestru marwolaeth.
Dylech ganiatáu oddeutu 30 munud ar gyfer y cofrestriad, ac os bydd rhaid i’r Cofrestrydd gyfeirio’r farwolaeth at y crwner, efallai y bydd rhaid i chi ddod yn ôl eto.
Bydd angen i’r Cofrestrydd gael gwybod:
- dyddiad a lleoliad y farwolaeth
- enw llawn yr ymadawedig (a’i enw cyn priodi lle y bo’n briodol)
- dyddiad a lleoliad geni’r ymadawedig
- galwedigaeth yr ymadawedig (hyd yn oed os oedd wedi ymddeol) ac enwau llawn a galwedigaeth ei ŵr/gwraig/partner sifil
- cyfeiriad arferol yr ymadawedig
- p’un a oedd yr ymadawedig yn derbyn pensiwn o arian cyhoeddus neu bensiwn gwaith
- p’un a oedd yr ymadawedig yn derbyn unrhyw fudd-daliadau o arian cyhoeddus
Dogfennau ategol
Dewch ag o leiaf un o’r dogfennau canlynol gyda chi pan fyddwch chi’n dod i gofrestru marwolaeth.
Mae angen dogfennau ar gyfer yr ymadawedig a’r sawl sy’n rhoi gwybod am y farwolaeth i ategu’r wybodaeth a ddelir ar y gofrestr ac i helpu i sicrhau cywirdeb y wybodaeth a gofnodir, a fydd yn lleihau’r angen am gywiriadau anghyfleus a chostus, o bosibl, yn y dyfodol.
Ar gyfer yr ymadawedig
- pasbort
- prawf cyfeiriad
- cerdyn meddygol
- tystysgrif geni
- pob tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil
- gweithred newid enw
Ar gyfer y sawl sy’n rhoi gwybod
- pasbort
- trwydded yrru
- prawf cyfeiriad, e.e. bil cyfleustodau
DS: ni fydd absenoldeb y dogfennau ategol hyn yn atal yr apwyntiad rhag cael ei drefnu – gall y Cofrestrydd gofrestru’r farwolaeth o hyd.
Claddu ac amlosgi plant
Yng Nghymru, nid yw awdurdodau lleol yn codi unrhyw ffioedd am wasanaethau claddu neu amlosgi ar gyfer plant o dan 18 oed. Hefyd, mae gan deuluoedd yng Nghymru, sydd wedi cofrestru colli plentyn o dan 18 oed, yr hawl i gael £500 fel cyfraniad tuag at gostau’r angladd a chostau perthnasol eraill.
Bydd swyddfa Cofrestrydd yr awdurdod lleol yn trafod hyn gyda theuluoedd pan fyddant yn cofrestru’r golled a gallant roi rhagor o fanylion iddynt.
Lawrlwytho claddu ac amlosgi plant (pdf)
Tystysgrifau
Ar ôl i’r farwolaeth gael ei chofrestru, efallai y bydd y Cofrestrydd yn rhoi dwy ddogfen i chi am ddim:
- Tystysgrif ar gyfer claddu neu amlosgi (a adwaenir fel y ffurflen werdd) i chi fynd â hi i’r trefnwr angladdau fel bod yr angladd yn gallu cael ei gynnal. Mewn rhai amgylchiadau, bydd y ffurflen hon yn cael ei rhoi gan y crwner. Os ydych eisoes yn gwybod pa drefnydd angladdau y byddwch yn ei ddefnyddio, gall y Cofrestrydd drefnu i e-bostio'r ffurflen werdd atynt ar eich rhan.
- Tystysgrif cofrestru marwolaeth (ffurflen BD8/344) at ddibenion nawdd cymdeithasol. Darllenwch gefn y ffurflen yn eich amser eich hun ac os bydd unrhyw ran o’r wybodaeth yn berthnasol, llenwch y ffurflen a’i dychwelyd i’ch swyddfa nawdd cymdeithasol leol.
Tystysgrifau marwolaeth safonol
Efallai y bydd angen i chi brynu rhai tystysgrifau marwolaeth hefyd.
Mae tystysgrif marwolaeth yn gopi ardystiedig o’r cofnod ar y gofrestr marwolaethau a gallai fod ei hangen ar fanciau, cymdeithasau adeiladu, cwmnïau yswiriant, cyfreithwyr neu ar gyfer hawliadau pensiwn.
Gallech ddymuno gofyn am sawl tystysgrif marwolaeth ar yr adeg cofrestru oherwydd bydd y pris yn cynyddu os bydd arnoch angen un yn ddiweddarach.
Bydd y Cofrestrydd yn eich cynghori ynglŷn â pha fath a faint o dystysgrifau y gallai fod arnoch eu hangen.
Lawrlwythwch ac argraffwch ffurflen gais am Dystysgrif Marwolaeth (pdf).
Dywedwch Wrthym Unwaith
Pan fydd marwolaeth wedi cael ei chofrestru, gall y gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith eich helpu i roi’r wybodaeth angenrheidiol i’r Adran Gwaith a Phensiynau, adrannau eraill y llywodraeth a gwasanaethau cyngor lleol.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae gwybodaeth am fudd-daliadau, profiant a chymorth gyda chostau angladd ar gael ar y wefan Directgov.