Adnewyddu addunedau priodas

Mae Gwasanaeth Cofrestru Casnewydd yn cynnig seremonïau ailddatgan addunedau priodas, sy'n gallu cael eu cynnal mewn unrhyw safle sydd wedi'i gymeradwyo.

Dyma seremoni i unrhyw gwpl sy'n briod neu sydd wedi ffurfio partneriaeth sifil ac sy'n dymuno dathlu ailddatgan eu haddunedau priodas mewn ffordd unigryw a phersonol.

Yn aml, bydd seremonïau yn gysylltiedig â phen-blwydd priodas arbennig, ond maen nhw'n briodol i gyplau ar unrhyw adeg.  

Ar ddiwedd y seremoni, bydd y ddau ohonoch yn llofnodi cofnod dinesig, bydd dau unigolyn yn llofnodi fel tystion a bydd tystysgrif goffaol o'r digwyddiad yn cael ei chyflwyno i chi.

Sylwer: nid oes statws cyfreithiol i'r seremoni nac i unrhyw dystysgrif goffaol.

Mae seremonïau ailddatgan addunedau priodas yn rhai seciwlar ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw gyfeiriadau crefyddol. Dylech gysylltu â'ch eglwys neu gymuned grefyddol leol os hoffech gynnal seremoni grefyddol. 

Y seremoni

Bydd gweinydd hyfforddedig a phrofiadol Gwasanaeth Cofrestru Casnewydd yn cynnal eich seremoni a gall roi cyngor ar unrhyw beth rydych chi'n ansicr amdano.

Mae'r seremoni mor unigryw â'r cwpl sy'n trefnu'r dathliad a bydd yn cael ei chreu gan y cwpl gyda chymorth y gweinydd.

Gall y bobl arbennig yn eich bywyd gymryd rhan yn eich seremoni, er enghraifft, eich plant, gwesteion a ddaeth i'ch priodas neu bartneriaeth sifil ac unrhyw ffrindiau a pherthnasau.

Hefyd, bydd angen i chi ofyn i ddau unigolyn fod yn dystion i lofnodi tystysgrif y digwyddiad.

Bydd y seremoni'n para tua 30 munud yn dibynnu ar nifer yr opsiynau a darlleniadau sy'n cael eu dewis. 

Gallech ddymuno ystyried cynnwys yr opsiynau isod:

  • cydnabod unrhyw blant
  • darlleniadau
  • adnewyddu addunedau
  • ailgysegru modrwy/modrwyon
  • rhoi modrwy/modrwyon newydd neu roddion
  • gair gan westai mewn seremoni flaenorol, e.e. gwas priodas, morynion, perthynas
  • cannwyll goffa ar gyfer pobl nad ydynt yn bresennol

Darllenwch am ffioedd seremonïau

Cysylltu

Cysylltwch â Swyddfa Gofrestru Casnewydd.

Rhaid i chi ddangos eich tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil pan fyddwch yn trefnu'r seremoni.