Cam 2: Costau

Mansion House gates sign

Wrth gyllidebu ar gyfer y seremoni, dylech gofio bod y costau’n amrywio’n dibynnu ar ddiwrnod yr wythnos, math y seremoni a’r lleoliad.

Mae’r holl ffioedd yn amodol ar gynnydd blynyddol a fel enghraifft, dyma sut fyddai cyfanswm pris priodas neu bartneriaeth sifil yn Y Plasty yn 2021 yn cael ei gyfrifo.

Er enghraifft…

Cysylltodd Susan a John â’r tîm cofrestru yma yng Nghasnewydd i drefnu eu priodas yn Y Plasty.

Gan fod y cwpl yn awyddus i wneud trefniadau eraill, e.e. gwledd briodas, blodau, ffotograffydd ac ati, maen nhw’n dewis ‘cadw’r dyddiad‘.

Maen nhw’n talu’r ffi o £35 i ‘gadw’r dyddiad’ i roi tawelwch meddwl iddynt, cyn belled â bod eu gwaith papur cyfreithiol mewn trefn ac yn gyflawn erbyn yr amserlen angenrheidiol, byddai’r briodas yn mynd yn ei blaen ar y dyddiad dewis.

6 mis cyn y seremoni, gwnaeth Susan a John apwyntiad i fynd i gyfweliad yn y swyddfa gofrestru leol fel bod modd trefnu’r gwaith papur cyfreithiol.

Gelwir y broses hon yn ‘dechrau ar hysbysiad cyfreithiol’ a bydd yn sicrhau archeb y seremoni. Y ffi yw £35 yr un ac fe'i telir ar yr adeg y maent yn gwneud eu hapwyntiad.

Chwe wythnos cyn eu priodas, bydd angen tali ffi derfynol y seremoni.

Ar gyfer yr enghraifft hon rydym wedi tybio mai seremoni ddydd Iau sydd wedi’i harchebu, ac mae’r cwpl wedi gofyn i gael tystysgrif priodas cyn gynted â phosibl ar ôl y seremoni. 

Yn yr enghraifft hon, y costau fyddai:

  • £35 i ‘gadw’r dyddiad’ (argymhellir gwneud hyn)
  • £70 am ddau hysbysiad cyfreithiol o briodas
  • £365 ffi seremoni yn Y Plasty (dydd Iau, 2023)
  • £11 am dystysgrif priodas

£481 - cyfanswm cost y seremoni 2023 yn y Plasty

Darllenwch am ffioedd priodas a ffioedd partneriaeth sifil 

>>Nesaf: Cam 3: Archeb Arbed y Dyddiad

<<Yn ôl i: Cam 1: Pa fath o seremoni?