Trefnu'ch priodas

Mae hysbysiad o briodas yn ddilys am flwyddyn ond y cyngor bob amser yw i chi drefnu dyddiad eich priodas cyn gynted â phosibl.

Cadw'r dyddiad

Yn Swyddfa Gofrestru Casnewydd, mae gwasanaeth 'cadw'r dyddiad' yn gadael i chi drefnu'ch priodas cyn belled o flaen llaw ag y dymunwch, fel y gallwch wneud yr holl drefniadau angenrheidiol eraill mewn da bryd.  

Gallwch gadw'r dyddiad dros y ffôn neu'n bersonol, gan dalu ffi o £25 ar gyfer y lleoliad, y dyddiad a'r amser penodol.

Ni fydd y ffi'n cael ei had-dalu os byddwch yn canslo neu'n dewis peidio â bwrw ymlaen, a bydd rhaid talu ffi o'r newydd os byddwch am newid unrhyw rai o'ch trefniadau.

Os dewiswch beidio â chadw'r dyddiad, popeth yn iawn. Rhown wybod i chi am y dyddiadau sydd ar gael, er y gallai'r rheiny newid erbyn i chi gwblhau'r camau cyfreithiol rhagarweiniol.

Cadarnheir trefniadau pan fydd y camau cyfreithiol rhagarweiniol wedi'u cwblhau yn unig

Bydd angen i chi roi eich hysbysiad cyfreithiol o'r briodas ar yr adeg briodol i gadarnhau'r trefniant.

Rhaid i chi roi eich hysbysiad o'r briodas i Gofrestrydd Arolygol yr ardal lle'r ydych yn byw, ni waeth ymhle y byddwch chi'n priodi.

Ewch i Gov.UK i ddod o hyd i'ch swyddfa leol er mwyn trefnu apwyntiad i wneud hyn.

Rhoddir manylion llawn y camau cyfreithiol angenrheidiol sy'n ofynnol pan fyddwch yn ffonio i drefnu apwyntiad.

Dogfennau

Wrth roi hysbysiad o briodas, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o bwy ydych chi a'ch cenedligrwydd.

Mae pasbortau yn ddelfrydol, ond rhown wybod i chi ba ddogfennau eraill a allai fod yn dderbyniol.

Hefyd, gofynnir i chi ddangos tystiolaeth o'ch cyfeiriad (e.e. bil cyfleustodau neu drwydded yrru).

Os ydych chi wedi bod yn briod o'r blaen ac wedi ysgaru, bydd angen i chi ddangos archddyfarniad absoliwt â stamp gwreiddiol y llys arno.

Os bu farw eich priod, bydd angen i ni weld copi ardystiedig o'r dystysgrif marwolaeth.

Os ydych wedi newid eich enw trwy weithred newid enw neu ddatganiad statudol, bydd angen dangos y dogfennau.

Os yw'r naill neu'r llall ohonoch o dan 18 oed, bydd angen i ni ddosbarthu gwaith papur cyn eich apwyntiad er mwyn cael caniatâd angenrheidiol eich rhieni neu warcheidwaid.

Os na allwch ddarparu unrhyw rai o'r dogfennau eraill, bydd y Cofrestrydd Arolygol yn esbonio pa ddogfennau eraill a allai fod yn dderbyniol.

Cysylltu 

Cysylltu â Swyddfa Gofrestru Casnewydd