Gallwch wneud cais, adrodd neu dalu am wasanaethau’r cyngor ar-lein ar adeg ac mewn lleoliad sy’n addas i chi.
Drwy ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein ac ap gallwch gysylltu â’r cyngor yn gyflym a chael ymateb cyflym.
Os byddwch yn creu cyfrif personol, byddwch yn gallu gweld eich holl ymholiadau ac ymatebion mewn un lle.
Fodd bynnag, gallwch dal adrodd, gofyn a thalu am wasanaethau heb greu cyfrif – trwy fewngofnodi fel gwestai.
Mae’r ap My Newport hefyd yn ei gwneud hi’n haws i ofyn am wasanaethau'r cyngor pan rydych allan. Gallwch ei lawrlwytho o siop apiau eich darparwr – chwiliwch am ‘My Newport’.
Treth gyngor, ardrethi busnes, budd-dal tai
Gwneud taliad treth gyngor
Talu cyfraddau busnes
Talu gordaliad o’r budd-dal tai
Anfoneb Amrywiol
Talu anfoneb amrywiol
Talu eich anfoneb dyledwr amrywiol
Ar-lein: Gwnewch daliad diogel ar-lein gan ddefnyddio'ch cerdyn debyd neu gredyd.Sicrhewch fod eich rhif anfoneb naw digid yn dechrau gyda 201, 259 neu 269 wrth law.
Sylwch y gellir talu anfonebau lluosog mewn un trafodiad trwy ddefnyddio un o'ch rhifau anfoneb fel cyfeirnod.
Trosglwyddiad BACS: Gwnewch drosglwyddiad banc gan ddefnyddio’r manylion canlynol: Rhif cyfrif: 05070406
Cod didoli: 09-07-20
Cyfeirnod: eich rhif anfoneb naw digid.
Ffôn: Mae llinell daliadau awtomataidd ar gael 24 awr y dydd, ffoniwch Gyngor Dinas Casnewydd ar (01633) 656656 a dilynwch y cyfarwyddiadau i dalu.
Arian Parod, Siec neu Gerdyn: Gallwch dalu'n bersonol ag arian parod mewn unrhyw allfa PayPoint yn y DU neu ag arian parod, siec neu gerdyn mewn unrhyw Swyddfa Bost yn y DU drwy ddangos eich anfoneb â chod bar i'r adwerthwr neu Swyddfa'r Post. Dewch o hyd i'ch safle PayPoint agosaf ar Fy Nghasnewydd.
Post: Gellir postio sieciau i: Casglu Incwm, PO Box 886, Casnewydd, NP20 9LU Ysgrifennwch rif eich anfoneb a'ch cyfeiriad ar y cefn. Peidiwch ag anfon arian parod drwy'r post. Os oes gennych unrhyw ymholiadau e-bostiwch y Tîm Casglu Incwm yn Debtors.Team@newport.gov.uk
Dirwyon parcio a hysbysiadau cosb benodedig
Talu dirwy parcio
Talu hysbysiad cosb benodedig, e.e. baw cŵn, sbwriel, graffiti, achosion o dorri GDMC ac ati
Gofal cartref, Cerddoriaeth Gwent, Monwel
Talu am gymorth gofal cartref
Talu am offeryn neu arholiad cerddoriaeth Cerddoriaeth Gwent
Prynu tŷ Monwel a phlatiau ac arwyddion drysau