Ap a gwasanaethau ar-lein 'My Newport'
Arbedwch amser ac ewch ar-lein – gallwch roi gwybod, gwneud cais, talu a thracio
Mae gwasanaethau ar-lein ac ap symudol Casnewydd yn eich galluogi i gyrchu gwasanaethau’r Cyngor unrhyw adeg, o unrhyw leoliad – gan arbed amser ac ymdrech i chi.
Drwy ddefnyddio gwasanaethau ar-lein neu ap ‘My Newport’ gallwch gysylltu â’r Cyngor yn gyflym a rhwydd a chael ymateb cyflym.
Pa wasanaethau sydd ar gael ar-lein?
Mae mwy o wasanaethau’r Cyngor yn cael eu hychwanegu at ‘My Newport’ drwy’r adeg, dyma ddetholiad o’r hyn y gallwch ei wneud ar-lein:
- rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon a baw ci pan fyddwch allan, gan gynnwys yr opsiwn o uwchlwytho lluniau
- gweld pryd mae eich casgliadau ailgylchu a sbwriel neu roi gwybod am gasgliad a fethwyd
- gwneud ymholiad am briodas neu seremoni enwi
- dysgu mwy am faethu neu fabwysiadu
- talu am wersi cerdd
- talu’r dreth gyngor
- gofyn am gyngor tai
Pam ddylech chi greu cyfrif?
Os cofrestrwch gyda ‘My Newport’ bydd eich holl geisiadau a throsglwyddiadau ar gael i’w gweld mewn un lle. Gallwch dracio cynnydd eich ymholiadau a gweld unrhyw ymatebion.
Fodd bynnag, gallwch dal adrodd, gofyn a thalu am wasanaethau heb greu cyfrif os dymunwch – trwy fewngofnodi fel gwestai.
Ap symudol ‘My Newport’
Mae'r ap symudol ‘My Newport’ ar gael ar gyfer dyfeisiau Apple ac Android. Ewch i siop apiau neu play eich darparwr a chwiliwch am ‘My Newport’. Mae gwasanaethau ar gael yn Gymraeg a Saesneg.